Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhif yr aelodau, 352; y gwrandawyr, 630; yr Ysgol Sul, 524.

O. Y.-Ysgrifenwyd yn helaethach am yr eglwys hon nag y gellir gwneyd am y mwyafrif o'r eglwysi eraill, am fod yn perthyn iddi fwy o ffeithiau hanesyddol.

TANYGRISIAU.

Ugain mlynedd yn ol, darfu i'r blaenor haeddbarch, Mr. William Mona Williams, ysgrifenu hanes yr achos yn Nhanygrisiau, o'i gychwyniad hyd 1844, sylwedd yr hwn a ymddangosodd gydag Adroddiad Ysgolion y Dosbarth am y flwyddyn 1870. Cafodd yntau lawer o'r ffeithiau o enau William Jones, Pantyrhedydd, ac Ann James, dau o'r hen frodorion. Gwneir defnydd o'r hanes hwnw yn y tudalenau hyn.

Nid oedd yn Nghwm Tanygrisiau yn y flwyddyn 1809 ond ychydig iawn o drigolion. Gwneid y rhai hyny i fyny o ryw haner dwsin o deuluoedd, wedi eu geni a'u magu mewn dygn dywyllwch ac anwybodaeth, heb allor i'r Arglwydd wedi ei chodi yn yr un o honynt, nac un math o foddion wedi ei sefydlu yn eu plith. Ond yn yr adeg yma, cafodd dau neu dri o'r teuluoedd ar eu meddwl i gyfarfod â'u gilydd ar y Sabbath i ddysgu darllen gair Duw. Ymddengys mai Owen Evan, Tŷ'nddol, a ysgogodd gyntaf gyda'r symudiad newydd. Yr oedd ef wedi bod yn gwrando ar y Parch. Thomas Charles, o'r Bala, yn cefnogi yr Ysgol Sabbothol. Teimlodd yn ddwys dros ei deulu ei hun a'r teuluoedd eraill yn y Cwm, a phenderfynodd ar unwaith i wneuthur ymdrech i sefydlu ysgol yn Nhanygrisiau. Peth digon rhesymol ydyw clywed am yr ysgogiad yn cymeryd lle yr adeg yma, oblegid dyma y blynyddoedd, fel y cofir, yr oedd Cymanfaoedd Ysgolion cyntaf Cymru yn eu gogoniant. Dechreuodd teulu Tŷ'nddol, a theulu Tynewydd, lle yr oedd John Williams, a'i wraig