Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Catherine Richard, a'u plant yn byw, gyfarfod ynghyd ar y Sabbath yn hen ffermdy Tanygrisiau. Felly yr oedd yno dri theulu wedi ymgynull, er nad oedd yr un o honynt yn proffesu crefydd. Enw y penteulu yn Tanygrisiau oedd Catherine Cadwaladr. Yr arolygwr oedd Owen Evan, Tŷ'nddol, a phawb yn ufudd iddo. Ymdaenodd cwmwl o dristwch, modd bynag, dros yr ysgol yn lled fuan yn y lle hwn, trwy i un o feibion Catherine Cadwaladr briodi yn groes i ewyllys y teulu, ac achlysurodd y fath derfysg, fel y barnodd y cyfeillion nad oedd y teulu na'r tŷ yn gyfaddas i ymgynull ynddo hyd nes y deuai yr awyrgylch yn fwy tangnefeddus. A'r canlyniad fu i Owen Evan symud yr ysgol i'w dŷ ei hun, sef Tŷ'nddol. Digwyddodd rhyw rwystr eto i beri rhoddi yr ysgol i fyny, a bu yr ardal am ychydig heb yr un ysgol. Ond erbyn y flwyddyn 1818, yr ydym yn ei chael yn yr un fan ag y dechreuodd-yn ffermdy Tanygrisiau. Y tenant y pryd hwn oedd un o'r enw John Jones; nid oedd ef yn proffesu. Cynhelid yr ysgol yma am fod y tŷ yn helaethach na'r un tŷ arall yn y Cwm.

Erbyn hyn, yr oedd brodyr eraill wedi dyfod i gynorthwyo gyda'r ysgol, sef Edmund Lloyd, Ddolwen; Robert Williams, a Robert Richard, Tŷ'nycefn; ac yr oedd Owen Evan hefyd wedi ymuno â'r eglwys yn yr Hen Gapel yn agos i bentref Ffestiniog. Efe oedd yr arolygwr eto, ac arno ef y gorphwysai y gofal ar fod pobpeth yn cael ei ddwyn ymlaen yn rheolaidd, megis dechreu a diweddu yr ysgol yn brydlawn. Gwladaidd a chyntefig hynod oedd eu dull o gario y gwaith ymlaen; yr arwydd i derfynu yr ysgol yn y gauaf fyddai dyfodiad y gwartheg at y tŷ i'w rhwymo. Pan y deuent, rhoddai yr arolygwr yr hysbysrwydd gan ddywedyd, "Mae yn bryd dibenu, mae'r gwartheg yn tynu at y beudy." Cyfarfu y brodyr â phrofedigaeth eto gyda'r ysgol yn ffermdy Tanygrisiau. Nid oedd John Jones, gŵr y tŷ, yn