Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

proffesu crefydd, nac ychwaith wedi ymuno â hwy yn yr ysgol, ond yn unig wedi cydsynio i roddi benthyg ei dy i'w chynal; byddai ef ei hun yn troi allan i fugeilio y defaid, ar yr amser y cedwid yr ysgol yn ei dŷ. Gan hyny, daethant i'r penderfyniad nad oedd dyn a ymddygasai felly ar ddydd yr Arglwydd, ddim yn deilwng i gael yr ysgol o dan ei gronglwyd, a threfnwyd i'w symud ar unwaith i'r Tŷ'nddol yr ail waith, er fod yr anghyfleusderau yn fwy i'w chynal yno. Yr oedd y gŵr a'r wraig bellach yn proffesu, a chroesaw calon i'r ysgol ddyfod i'w tŷ, ac yno y bu hyd nes y cafwyd ysgoldy i'w chynal yn 1833. Cynyddodd ei disgyblion, ond collodd ei noddwyr o un i un, trwy farwolaeth a symudiadau, a bu farw yr arolygwr, Owen Evan, a'i ddymuniad olaf wrth ei briod a'i blant oedd, am iddynt gadw croesaw i'r ysgol yno hyd nes y caent le gwell i'w chadw. Ni bu llafurus gariad y gŵr hwn yn ofer: y mae tri o'i wyrion yn weinidogion yr efengyl. Dywed yr hanes, "Yr oedd yn Tŷ'nddol y pryd hwn bedwar neu bump o ddosbarthiadau, un wrth y drws i gael goleu oddiallan; un wrth y bwrdd, i gael goleu trwy'r ffenestr; un ar yr aelwyd, i gael goleu trwy y simdda; ac un neu ddan o ddosbarthiadau'r plant yn y siamber, i gael goleu trwy ffenestr arall."

Ar ol colli arolygwr cyntaf yr ysgol trwy farwolaeth, daeth brodyr ffyddion eraill i fyw i'r ardal,—John Pierce, Tŷ'nllwyn, yr hwn, oherwydd ei fod ar y blaen i bawb arall, a osodwyd ar unwaith yn arolygwr; William Morris, a fu yn ffyddlon gyda'r canu; W. Williams (Gwilym Peris), Griffith Prys, Pierce Davies (wed ihyny o Borthmadog), a William Rowland. Yr oedd y diweddaf yn dad i'r blaenor adnabyddus, Mr. R. Rowlands, U.H., Plasheulog, Pwllheli. Efe oedd y mwyaf ei sel o'r brodyr y cyfnod hwn. Yr oedd yn oruchwyliwr ar chwarel Mr. S. Holland, diweddar A.S. dros Feirionydd. Eto, gwnelai ei hun yn bobpeth i bawb, er mwyn bod yn wasanaeth-