Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gar i'w gyd-ddynion, ac i achos yr Arglwydd Iesu. Yr oedd mor selog, ebe ei hen gyfaill, William Morris, fel y dechreuodd yr ysgol y Sabbath cyntaf ar ol iddo ymuno â chrefydd, heb i neb ei gymell; wedi darllen rhoddodd benill allan, a dechreuodd ei ganu ei hun, ond yn anffodus, fe fethodd y dôn, er cynyg fwy nag unwaith. O'r diwedd, dywedai, "Ddaw o ddim, treia di o, Will Morris;" ac felly fu, cafwyd hyd i'r dôn, ac yna aeth pob peth ymlaen yn eithaf hwylus. Yr oedd yn llawn gweithgarwch gydag adeiladu yr ysgoldy a'r capel cyntaf; ond cyn 1840, yr oedd wedi ei gymeryd yn sydyn i'r orphwysfa, a dywedir na "bu y fath angladd o'r blaen yn myned o gwm mynyddig Tanygrisiau, er dechreu'r byd." William Owen, wedi hyny o Bethesda, a Thomas Williams, wedi hyny y Parchedig Thos. Williams, Remsen, America, fuont o fendith yma fel dynion ieuainc y pryd hwn.

Oddeutu 1832 yr oedd y boblogaeth yn cynyddu, a daeth sibrwd ymhlith y brodyr am gael ysgoldy yn lle tŷ anedd i gadw yr Ysgol Sul. Mae yr hanes am hyn mor ddyddorol fel y rhoddir ef yma yn llawn. Galwyd cyfarfod athrawon ar ol yr ysgol, i gael sylw ar y mater: ond bu raid tori y cyfarfod i fyny heb ddyfod i ddim penderfyniad, am fod yr achos yn rhy gysegredig i'w drafod ar y Sabbath. Gohiriwyd hyd noswaith benodol, pryd yr oedd yr ysgoldy yr unig fater i ddyfod dan sylw. Yr arolygwr, John Pierce, oedd llywydd y cyfarfod. "Wel," meddai, "y peth cyntaf sydd i fod dan sylw yma heno ydyw, a oes arnom ni eisiau ysgoldy." "Wel," atebai W. Rowland, "beth wyt ti yn gofyn cwestiwn mor wirion, yn 'dwyr pawb fod arnom ei eisiau." *Wel aros di," dywedai y llywydd, "rhaid i ni fyn'd ymlaen yn rheolaidd gyda'r achos." Yna distawodd yntau am ychydig, er fod sel at yr achos yn ei ysu. A phenderfynodd y frawdoliaeth yn unfrydol fod eisiau ysgoldy. "Wel, yn ail," ebe y llywydd, "ymha le y bydd o?" Gyda hyny, dyma W. Rowland ar ei draed eilwaith,