Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan ddweyd, Onid ydym ni wedi penderfynu ei le, o dan y clogwyn, wrth dy William Morris?" "Wel ie," atebai y llywydd, "fan hono 'rwyt ti a minau am iddo fod, ond gad i ni gael llais y brodyr eraill hefyd ar y mater." "Wel, o'r goreu," meddai yntau, "rydw i yn siwr mai dyna'r lle goreu, ond deudwch chwi eich barn i gyd." Ac felly fu, troes pawb yr un ffordd â W. Rowland.

"Wel," ebe'r llywydd drachefn, "dyna ddau beth wedi eu penderfynu, y peth nesaf i fod o dan sylw ydyw, beth fydd ei faint o?" Atebodd W. R. eto, "Yr ydw i yn cynyg iddo fod yn chwe' llath wrth saith." "Yr wyf finau," ebe y llywydd, yn cynyg iddo fod yn bump wrth chwech," ac yna troes at y brodyr eraill, "Beth ydach chi yn ddeud yna, fechgyn, i gyd?" Atebodd Evan Robert, Glan-y-pwll-bach, "Wel, yr ydwyf fi wedi pwyso y peth yn fy meddwl mor fanwl ag y gallwn, a rhyw ochri at fesur W. Rowland yr ydwyf fi." "O'r goreu," ebe'r llywydd, "beth ydach chi yn ddeud i gyd? Mae hwn yn fater na ddylid ei benderfynu yn fyrbwyll." Atebodd pawb yn unfrydol o blaid cynygiad W. Rowland. "Wel," ebe yntau, "dyma fi wedi fy nghoncro yn deg; ni a'i gwnawn ef yn chwe' llath wrth saith; ac mi fydd yn ddigon o faint i'r oes yma." Felly y terfynodd y cyfarfod, a phawb yn selog am adeiladu yr ysgoldy.

Tua'r pryd hwn yr oedd W. Rowland yn siarad â'i feistr, Samuel Holland, Ysw., a phwnc yr ymddiddan oedd ynghylch cael digon o le i'r gweithwyr letya, yr hyn beth oedd yn brin iawn oherwydd anamledd y tai; dywedai y boneddwr wrth ei oruchwyliwr, "Yr wyf fi, William, am adeiladu capel yn Nhanygrisiau, oherwydd yr wyf fi yn gweled pobl yn dyfod i fyw, ac i adeiladu tai ymhob man lle y bydd capel, a phe caem ninau gapel yn Nhanygrisiau, ni byddai prinder lle i letya ar ein gweithwyr." Achubodd W. Rowland y cyfleusdra pan glywodd hyn, ac a ofynodd a gai efe y cynyg cyntaf i adeiladu