Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgoldy yn Nhanygrisiau. "Beth wyt ti, William?" gofynai yntau. "Methodist, Syr," oedd yr ateb. Ac yn y fan y boneddwr a ganiataodd le i adeiladu ar y llecyn yr oedd y brodyr wedi penderfynu arno. Cyfododd un rhwystr eto ar eu ffordd. Aelodau o eglwys Bethesda oedd hyny o grefyddwyr a breswylient yma. A oedd pobl Bethesda yn foddlawn iddynt adeiladu ysgoldy? Na, ni allent ganiatau, am fod eu colli o'r moddion yno yn golled iddynt hwy. Megis y darfu i bobl y Llan daflu rhwystrau ar eu ffordd hwy bymtheng mlynedd yn flaenorol, yr oeddynt hwythau yn awr am daflu rhwystrau ar ffordd pobl Tanygrisiau. Dadleuai John Pierce bellder y ffordd, a henaint a llesgedd rhai o'r brodyr a'r chwiorydd. Robert William, Penybryn, a gyfodai ei fraich i fyny gan ddywedyd, "Nid oes dim ond diogi ar eich ffordd i ddyfod i Bethesda." "Mae yr achos yn deilwng," ebai W. Rowland, "y mae angen am ysgoldy. Rhoddwch chwi i ni 5p., mi fentrwn ni ein siawns am y costau." Mentro a wnaethant, ac yr oedd pawb, gorff ac enaid wedi ymroddi at y gwaith; rhai yn tori sylfaen, eraill yn codi ceryg, fel y cwblhawyd y gwaith mewn ychydig iawn o amser. Agorwyd yr Ysgoldy ar Sabbath yn niwedd haf 1833. Gŵr dieithr o'r Deheudir oedd yn pregethu y boreu, a'r Parch. Daniel Evans, Harlech, y prydnhawn.

Rhif yr ysgol yn 1819—ddeng mlynedd ar ol ei dechreu—oedd 30. Y rhifedi cyntaf wedi myned i'r ysgoldy ydyw 90. Wrth gychwyn yr ysgol yn ei chartref newydd, cynbaliwyd cyfarfod brodyr i neillduo swyddogion, a neillduwyd John Pierce yn arolygwr; Griffith Prys ac Humphrey Dafydd i wrando adnodau y plant; John Pierce ac Evan Roberts, Glanpwllbach, i holwyddori bob yn ail; W. Rowland i wrando y Deg Gorchymyn; a William Morris i ddechreu canu. Y mae arweiniad y canu, gydag ychydig eithriadau, yn aros yn nheulu y diweddaf hyd heddyw. Byddid yn cael yn yr ysgoldy,