Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eu cynllun i ymlwybro ar noson dywyll yn y coed fyddai, diosg un esgid oddiam y troed, er mwyn teimlo yn y tywyllwch pa le byddai y llwybr. Dywediad mynych un chwaer— Margaret Williams, gwraig Owen Evan, Tŷ'nddol,—fyddai, "ei bod lawer gwaith wedi methu cychwyn i'r capel, ond na fethodd erioed a dyfod adref ar ol cychwyn." "Gwerthfawr oedd gair yr Arglwydd y dyddiau hyny" yn Mlaenau Ffestiniog. Byddai odfa ambell dro ar ganol dydd gwaith yn hen ffermdy Rhiwbryfdir, gan ryw ŵr dieithr ar ei daith i Dolyddelen. William Jones, Pant yr Ehedydd, a ddywedai y byddent yn gadael eu gwaith yn chwarel y Diphwys ar ganol dydd, ac yn myned i Riwbryfdir i wrando Lewis Morris yn pregethu, ac yn dychwelyd i weithio ar ol yr odfa, a byddai cymaint o geryg wedi eu gwneyd erbyn nos y diwrnod hwnw a rhyw ddiwrnod arall. Yn ystod tymor yr Ysgoldy yn Nhanygrisiau, 1833-1838, byddent yn cynal cyfarfod gweddi, fel rheol, am chwech o'r gloch boreu Sabbath, yna i Bethesda erbyn wyth i'r cyfarfod eglwysig, a'r bregeth am ddeg; a dychwelent i Tanygrisiau i gael ysgol am ddau, a chyfarfod gweddi y nos. Ar ol adeiladu y capel ac ymsefydlu yn eglwys, y daith Sabbath am lawer o flynyddoedd ydoedd Bethesda a Thanygrisiau, y pregethwr ddwywaith yn un lle un Sabbath, a dwywaith yn y llall y Sabbath arall. Parhaodd yr arferiad o fyned o Danygrisiau i Bethesda gyda'r pregethwr ddau o'r gloch am fwy na deng mlynedd, ac ar ambell Sul teg yn yr haf gwelid preswylwyr y Cwm, yn rhieni ac yn blant, yn myned yn fintai dros y Bwlch llydan, ar draws Cwmbowydd, tua chapel Bethesda. A phan fyddai pregethwr poblogaidd, megis Dafydd Rolant, y Bala, yn y daith, duid y llwybr gan deithwyr.

Yn y flwyddyn 1840, ymhen llai na dwy flynedd ar ol adeiladu y capel cyntaf, yr oedd nifer yr eglwys, yn lle bod yn 36, wedi cynyddu i 100; a'r ysgol, yn lle 136, wedi cynyddu