Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i 199; a'r capel yn rhy gyfyng i gynwys y gynulleidfa. Aeth John Pierce a'r achos eto i'r Cyfarfod Misol; ac yr oedd y brodyr yn edrych yn syn fod eisiau capel newydd yn Nhanygrisiau, y lle, ddwy flynedd yn flaenorol, oedd heb yr un capel. Ond dywedodd y genad, "Fod rhagluniaeth yn dyfod a'r bobl at y drws i'r Methodistiaid, a'u bod hwy yn teimlo eu cyfrifoldeb i wneyd pob ymdrech i gael digon o le i bawb oedd yn ewyllysio dyfod atynt." "Dyledswydd y brodyr yn Nhanygrisiau," ebe y Parch. Richard Jones, y Bala, "ydyw dechreu adeiladu heb golli dim amser." Hyny a wnaed; ac erbyn y Nadolig canlynol, yr oedd ganddynt gapel newydd yr ail waith, yn mesur deuddeg llath wrth bymtheg; a'r eglwys wedi cynyddu yn ei rhif erbyn dyfod yn ol iddo oddeutu 30. Yn y cyfamser daeth gŵr da i berthyn i'r eglwys, sef William Owen, Dinas, yr hwn oedd wedi dyfod yn lle W. Rowland, yn oruchwyliwr i Mr. Holland. Bu yn noddwr a chyfarwyddwr ffyddlon i'r achos. Efe a'r Parch. Richard Humphreys oeddynt gynllunwyr y capel newydd. Bu yr eglwys yn addoli yn y capel hwn o 1840 i 1864. Nid yw yn wybyddus beth oedd traul adeiladu yr ysgoldy cyntaf, na'r ddau gapel cyntaf, ond gorphenwyd clirio y ddyled yn 1862.

Nadolig, 1864, agorwyd y capel presenol, yr hwn sydd mewn lle cyfleus, ac yn mesur dwy lath ar bymtheg wrth ddwy ar hugain. Perthyna i'r Ysgol Sabbothol yma ganghenau: Cumorthin, yr hon a sefydlwyd tua 1855, ac a gynhelid i ddechreu yn hen ffermdy Cwmorthin Uchaf. Dair blynedd ar hugain yn ol, adeiladwyd ysgoldy cyfleus i'w chynal. Wrth gyhoeddi y moddion ar agoriad hwn y dywedodd y blaenor gwreiddiol, Thomas Jones, fel y canlyn: "Dyma y tro cyntaf i gyhoeddi yn Cwmorthin; heb fyn'd i gwmpasu, bydd yma bregethu bellach bob Sabbath hyd ddiwedd y byd." Dolrhedyn, lle oddeutu haner y ffordd rhwng Tanygrisiau a Chwmorthin. Adeiladwyd yma ysgoldy prydferth yn ddiweddar,