Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac y mae ynddo yn awr Ysgol Sul yn rhifo 140. Bu cangen ysgol hefyd lawer gwaith, o dro i bro, yn Tŷ'nycefn. Y draul gyda'r adeiladau hyn sydd fel y canlyn -

Bethel (adeiladwyd yn 1864)--£1700

Y Tŷ, &c.---£275

Railings, Frontage, a thoi yr ochr---£160

Cwmorthin (adeiladwyd yn 1867)---£250

Dolrhedyn (adeiladwyd yn 1882)---£350

Newid y Festri, a'r Heating Aparatus---164

Cyfanswm---2899

Nid oes o ddyled yn aros ar ddechreu 1890, ond 473p. 12s. Agorwyd yr ail gapel, fel y crybwyllwyd, ar ddydd Nadolig 1840, a bu hyny yn ddechreuad cyfarfod pregethu y Nadolig, a gynhelid yma am lawer iawn o flynyddoedd.

Cynwysa hanes mewnol yr eglwys hon lawer o bethau lled hynod. Yn ddibetrus, y mae wedi bod yn eglwys weithgar a. ffrwythlon o'r cychwyn cyntaf, ac y mae nifer mawr wedi eu darparu ynddi o bobl briodol ir Arglwydd. Gellir nodi, o leiaf, ddau beth a fu yn foddion arbenig i beri llwyddiant a chryfder yr eglwys trwy y blynyddoedd. Yn gyntaf, dylanwad yr hen grefyddwyr cyntaf, y rhai oeddynt Gristionogion aiddgar, cydwybodol, selog, ymroddedig, ac wedi eu meddianu i raddau uchel âg ysbryd gwir genhadol. Fel tòn fawr yn taflu ymhell i'r tir, mae ol cymeriad yr hen grefyddwyr yn aros. eto. Yn ail, bu yma flaenoriaid ac arweinwyr rhagorol o'r dechreu. Nid llawer o eglwysi y sir sydd yn fwy rhwymedig i'w blaenoriaid na'r eglwys hon. Yn ychwanegol, ac yn benaf, mae bendith yr Arglwydd wedi bod yn amlwg ar ei bobl. Yn fuan wedi adeiladu yr ail gapel, dechreuwyd cynal cyfarfod egwyddori, ar noson ganol yr wythnos, yr hwn a gariwyd ymlaen am oddeutu ugain mlynedd. Yr arweinwyr cyntaf yn