Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y cyfarfod hwn oeddynt, Griffith Evans a Robert Parry (wedi hyny y Parch. Robert Parry). "Dyma y cyfarfod," ebe y Parch. O. R. Morris, America, "a brofwyd yn fwyaf bendithiol i mi fy hun o un cyfarfod y bum yn ei fynychu erioed." Tystiolaeth yr hen flaenor parchus, W. Mona Williams, hefyd ydoedd, "fod chwech o weinidogion yr efengyl, heblaw nifer o ddynion defnyddiol mewn cylchoedd eraill, wedi cyfodi o gyfarfod egwyddori Tanygrisiau." Perthynai i'r gymydogaeth gymeriadau tra hynod, a cheid yn eu plith hen ddywediadau Cymroaidd, ac arferion cartrefol, nodweddiadol o ardaloedd gwledig Cymru. William Sion, y Cribau, a John Jones, Tai-isaf, oeddynt yn afaelgar mewn gweddi, a byddai Edward Parry yn wastad mewn hwyl. Ond yr hynotaf oedd Griffith Prys. Daeth awydd angerddol arno ef am fyned i bregethu. Byddai yn bur barod ei sylw yn yr Ysgol Sul a'r cyfarfod eglwysig, ac yr oedd ganddo rai areithiau ar ddirwest, ac yn fynych gwnai sylwadau buddiol yn y cylchoedd hyny. Ond nid oedd dim a'i boddlonai ond myned i bregethu, yr hyn a fynegodd i un o'r brodyr, gyda dymuniad i'r peth gael ei wneyd yn hysbys i'r ddau hen flaenor. "Wel," ebe John Pierce, "ydi o yn siwr a fedar o bregethu." "Medru," meddai Owen Pierce, "na fedar o ddim, o ble medar o mwy na mina!" "Rhaid iddo gael treio, wel di," atebai John. Pierce drachefn, "onte chawn ni ddim llonydd ganddo fo." "Wel," meddai yr hen frawd arall eilwaith, "rhowch chi o i dreio pan fynoch, gewch chi wel'd y bydd yn 'difar gynoch chi." Ymhen ychydig torodd rhyw bregethwr ei gyhoeddiad ar ganol dydd gwaith, ac achubwyd y cyfle i anog G. P. ddechreu y cyfarfod gweddi, ac i ddweyd tipyn ar y benod. Yntau a ufuddhaodd yn ebrwydd, fel un wedi cael rhyddid i ddechreu ar ei hoff waith. Agorodd y Beibl, dechreuodd ddarllen; ond wedi myned ymlaen ychydig o adnodau, safai heb ddweyd dim, gan gau ei lygaid, a symud ei draed yn ol ac