Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymlaen, a'r gynulleidfa wedi ei tharo a syndod, ac yn ceisio dyfalu beth allasai achosi y gosteg. Er y cwbl, gomedd dyfod yr oedd y sylwadau, ac o'r diwedd, trwy fawr helbul, cyrhaeddwyd diwedd y benod, a hyny mewn dirfawr dywyllwch i'r llefarwr a'r gwrandawyr. Pan y gofynwyd paham na buasai yn gwneuthur sylwadau ar y benod yn ol y cynllun, ei ateb oedd, "Ni fuaswn yn fy myw yn medru cofio dim na gweled dim; 'roedd hi yn dywyll fel y fagddu arnaf." Yn fuan wedi hyn, hysbysodd G. P. wrth un o'r brodyr "fod yr ysbryd wedi marw," ac nad oedd eisiau son am dano byth mwyach: Boddlonodd yr hen Gristion ar hyny, a daeth i'r tresi i weithio yn ei hen gylch fel o'r blaen.

Digwyddodd llawer tro hynod yn yr hen Gyfarfodydd Eglwysig. Nis gellir coffhau ond am un neu ddau. Gofynai y blaenor yn y seiat ar ol rhyw nos Sabbath, "A oes yma neb wedi aros ar ol yma heno?" Ar ol mynyd o ddistawrwydd, cododd dyn canol oed ar ei draed, a dywedodd yn uchel, "Oes, W. W., yr ydw' i yma." Gofynwyd i'r gweinidog fyned i ymddiddan âg ef, ond nid allai hwnw fyned, gan fod y dull anghyffredin hwn wedi ei daro. Yr oedd yn gymeriad adnabyddus, ac ychydig yn flaenorol yr oedd wedi colli un o'i blant trwy farwolaeth, yr hyn a effeithiodd yn fawr ar y tad. Wedi i'r gweinidog wrthod myned i ymddiddan âg ef, disgynodd ar W. W., y blaenor i fyned, yr hwn oedd yn dra chydnabyddus âg ef, ac yn gwybod ei holl hanes. Aeth y blaenor ymlaen dan siarad fel hyn:—"Wel J. R. bach, y mae yn dda iawn gen i dy wel'd di wedi troi dy wyneb i dŷ yr Arglwydd, ac yr wyf wedi meddwl llawer am danat yn dy brofedigaeth fawr, ac yr wyf wedi bod yn ceisio gweddio drostat ti lawer gwaith am i'r Arglwydd fendithio y brofedigaeth lem a'th gyfarfyddodd di a'th deulu." Yr oedd yr ymgeisydd yn sefyll ar ei draed yn ei eisteddle, a phan ddywedodd y blaenor ei fod wedi bod yn gweddio drosto,