Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gofynai yntau gyda phwyslais oedd yn dynodi syndod, "Trosta i, W.?" "Ie, drosta ti." Ar hyn, taflodd yr ymgeisydd ei fraich allan yn ei llawn hyd, a dywedodd, "Wel, tafl dy bump, machgen anwyl i" (ymadrodd a ddefnyddir yn y parthau hyn am ysgwyd llaw), a dyna lle y bu y ddau yn ymaflyd yn' dyn yn nwylaw eu gilydd. Yr oedd llawenydd mawr, a chyffro nid bychan wedi meddianu yr eglwys ar y pryd. Parhaodd y gŵr yn ffyddlawn, a chafwyd arwyddion amlwg ei fod wedi cael gwir crefydd. Tro hynod arall oedd pan y daeth y Parch. Lewis William, Llanfachreth, yma i gadw cyfarfod eglwysig, ychydig cyn diwedd ei oes. Yr oedd yr hen bererin mor iraidd ei ysbryd wrth ymddiddan â'r brodyr a'r chwiorydd, fel y gwaeddodd rhyw frawd-y dyn mwyaf o gorphorolaeth o neb oedd yn y cyfarfod,—"L. W., a fedrwch chwi ddim rhoi fy sodlau i ar y graig?" "Dy sodla' di," meddai yntau, "mi rho i di i gyd, yn dy grynswth, ar y graig, ond i ti ddwad at Iesu Grist. Rhyw afael slip iawn ydi gafael sowdwl; tyr'd di at Iesu Grist, a dyro, nid dy sodlau, ond dy hunan, gorff ac enaid, am amser a byth, i orwedd yn dawel arno, ac mi â i yn feichia i ti, na bydd dim perygl arnat byth." Ymadawodd y brawd hwnw a'r byd ac arwyddion sicr arno ei fod wedi cael ei draed ar y graig. Wedi myned i dŷ y capel, dywedai un o'r brodyr, "Yr oeddwn i yn meddwl wrth glywed L. W. yn dweyd mor dda am Iesu Grist, y gwnawn fy ngwaetha i'r diafol, trwy ddweyd yn ddrwg am dano ymhob man." "O, yr wyt ti yn misio yn arw," ebe L. W., "nid dweyd yn ddrwg am y diafol ydi'r goreu, ond dweyd yn dda am Iesu Grist; dyna fel y vexi di fwya ar y diafol o lawer, 'deill o ddim diodda clywed son am Iesu Grist—mi wneiff wadna arni hi i ffwrdd yn union wed'yn."

Nis gallwn fod yn sicr am restr y pregethwyr a gyfododd yn yr eglwys hon. Daeth y personau canlynol i'r weinidogaeth o'r rhai a ddilynent y cyfarfod egwyddori cyntaf:—Parchn.