Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Robert Parry, Griffith Williams, Talsarnau; Owen R. Morris, Bristol Grove, Minesota, America; David Davies, Rhiw (Corris wedi hyny); a W. Edmund Evans, Ballarat, Awstralia. Yn ddiweddarach, y Parchn. Elias Jones, Talsarnau; a Richard Rowlands, Llwyngwril. Y Parchn. W. O. Evans, Nefyn; ac M. O. Evans (A.), Bangor, hefyd, a fagwyd yn Nhanygrisiau. A ganlyn ydyw y rhestr o'r blaenoriaid.

JOHN PIERCE, TYNLLWYN.

Brodor ydoedd o Bethesda yn Arfon. Ymsefydlodd yn Nhanygrisiau ymhell cyn bod yma gapel. Efe oedd yr unig swyddog a ddaeth drosodd, fel y dywedwyd yn barod, gyda y ddiadell hon o eglwys Bethesda. Ei nodwedd arbenig ydoedd ei fod yn hollol ddidwyll a di-dderbynwyneb gyda holl ranau yr achos. Llawer gwaith yr adroddodd W. W., yr hanesyn canlynol am dano. Yr oedd unwaith wedi syrthio allan â'i frawd crefyddol Edward Parry. Tranoeth y ffrwgwd, yr oedd J. Pierce yn myned i'r Cyfarfod Misol, ac er ei fod yn cychwyn yn foreu, nis gallai fyned i'w daith heb yn gyntaf gymodi â'i frawd, a galwodd heibio'r tŷ pan yr oedd ei gyfaill ar ei liniau yn cadw dyledswydd, cyn cychwyn i'r chwarel. Aeth i fewn ar derfyn y weddi, a dywedodd ei neges mewn teimlad dwys, ac mewn mynydyn wele y ddau yn ysgwyd llaw â'r dagrau ar eu gruddiau. Un hynod ydoedd am fugeilio a gofalu am ieuenctyd yr eglwys. Arferai hwynt i weddio yn gynar iawn ar eu hoes, a'r lle cyntaf i'w profi fyddai trwy ddiweddu y seiat. Pan ddaeth W. W. i'r ardal i ddechreu, yr oedd dau fachgen dan yr oruchwyliaeth yma gan John Pierce, un i ledio penill a'r llall i weddio, ac ar ddiwedd y seiat dywedai, "Wel, fechgyn, mae yn amser terfynu, pwy sydd i ledio penill a'r llall fyned i weddi." Bu farw yn gymharol ieuanc, Chwefror 23. 1844. Efe ydoedd prif sylfaenydd yr achos yn Nhanygrisiau.