Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rowland. Ymunodd yn fuan & chrefydd, a dewiswyd ef cyn hir yn flaenor. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Ebrill 1848. Yr oedd ynddo lawer o gymwysderau i fod yn swyddog eglwysig. Byddai W. W. yn arfer a dweyd ei fod yn esiampl ragorol o flaenor. Ni welodd ef erioed mohono yn dyfod yn ysbryd y slewart i'r sêt fawr at ei frodyr. Gwaelodd ei iechyd, a symudodd i fyw i'r Borthwen, Penrhyndeudraeth, lle bu farw yn ŵr cymharol ieuanc.

THOMAS JONES, CWMORTHIN.

Daeth yma yn ŵr ieuanc o Benmachno. Bu am dymor yn dwyn ymlaen fasnach, heblaw gweithio yn y chwarel. Ar ol hyny gosodwyd ef yn oruchwyliwr ar Chwarel y Rhosydd, a bu yn preswylio yn Mhlas Cwmorthin am bum' mlynedd ar hugain. Treuliodd oes ddefnyddiol gyda chrefydd mwy na deugain mlynedd o honi yn gwasanaethu swydd blaenor. Perthynai iddo amryw hynodion, a llawer o ragoriaethau, ac ar gyfrif y naill a'r llall yr oedd yn adnabyddus i gylch eang y tuallan i'w gartref. Gwreiddioldeb meddwl, tanbeidrwydd ysbryd, halltrwydd yn erbyn pechod, mwynhau gweinidogaeth yr efengyl, llawenhau yn llwyddiant achos y Cyfryngwr, oeddynt nodau amlwg yn ei gymeriad. "Nis gwn a fu yn perthyn i'r eglwys hon flaenor a ddarllenodd fwy. Yr oedd yn rhagori ar bob un a adnabum o'r urdd mewn dawn ymadrodd. Yr oedd ei power of speech yn rhyfeddol. Byddai ei anerchiadau yn newydd bob tro, a hyny nid am ei fod yn cofio yr hyn a ddarllenai. Yn wir, nis gallai adrodd dim a ddarllenasai. Byddai ei dymherau, a'r chwedlau a glywai, yn ei gludo ymhell o'r ffordd dda yn lled fynych. Ond pan y byddai ar brif ffordd y Brenin, ni byddai 'neb a hoffwn ei glywed yn well. A byddai felly yn fynych yn y seiat yn Nghwmorthin. Nid llosgi a ffaglu ei hunan y byddai ychwaith y prydiau hyn.