Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Na, byddai pawb o'i wrandawyr mewn hwyl pan fyddai Thomas Jones yn morio. Gallai efe, nid yn unig beri i gynulleidfa wenu o dan yr athrawiaeth, ond parai iddi wylo dagrau ar un tarawiad."[1] Adroddir hanesyn am dano ef a'i gyd-flaenor, Griffith Evans. Amser y diwygiad, 1859, oedd, ac yn y gauaf, y ddaear wedi ei chloi i fyny gan eira a luwch, pawb yn chwarel y Rhosydd wedi myned adref, a T. J. a'i gyfaill wedi aros ar ol. Yr oeddynt ill dau yn y barracks, neu yr office, yn eistedd wrth y tân ar ben y mynydd felly. Dywedodd G. E. ai ni fyddai yn well iddynt fyned ar eu gliniau, ac i'r ddau fyned i weddi. Ac yn rhywle yn y weddi dywedodd, "Diolch i ti, O Arglwydd, fod ein llinynau wedi disgyn i ni mewn lleoedd hyfryd, a bod i ni etifeddiaeth deg." Wedi iddynt gyfodi oddiar eu gliniau, gofynodd T. J., gan ostwng ei wâr, i G. E., "Beth wyt ti yn ei wel'd, dywed, yn hyfryd ac yn deg mewn lle fel hyn?" Gwelodd ei gyfaill mai tewi oedd hawddaf ar y pryd, ac felly y gwnaeth. Byddai gan Thomas Jones ddull hollol ar ei ben ei hun o ddysgu a rhybuddio. Ei ffordd yn gyffredin fyddai tynu darlun o'r pechadur, a dweyd rhyw air y byddai y troseddwr yn arfer ddweyd, neu ddynwared ystum y troseddwr, fel y gallai pawb oedd yn gydnabyddus â'r amgylchiadau adnabod y cyfeiriad yn ddios. Yna byddai yr holl fwledi yn cael eu saethu at y troseddwr gyda nerth. Nid dyna y ffordd i lwyddo i wella dynion yn gyffredin, ond hono a gymerai ef gyda phechodau fyddent yn codi eu penau yn yr ardal. Llawer gwaith y bu yn ofn i weithredoedd drwg. Anaml y byddai y troseddwr heb ddeall yr ergydion, ond digwyddai felly weithiau. Yr oedd yno ddyn yn arfer meddwi yn lled fynych yn perthyn i'r gynulleidfa yn Mhenmorfa, lle y bu T. J. yn byw ddiweddaf; ac ar ddiwedd y cyfarfod ar nos Sabbath, anogwyd Thos.

  1. Sylwadau y Parch. S. Owen. Ganddo ef y cafwyd llawer o hanes y blynyddoedd diweddaf.