Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Jones i roddi cyngor. Gwelodd yntau y cyfle i argyhoeddi y gŵr hwnw o'i bechod, canys yr oedd yn bresenol. A dyma ei ddarlun yn cael ei dynu yn fanwl gan y cynghorwr, ac yn ol ei arfer, taflai ei olwg i edrych a oedd y pechadur yn sylwi a gwladeiddio; ond nid oedd yn amgyffred dim o'i sefyllfa na'i berygl—edrychai yn ddifraw o'i amgylch. Ar hyn pallodd amynedd y llefarwr, ac mor ddisymwth a mellten cyfeiriai ato trwy waeddi, "Da chwi, hwn a hwn, a wnewch chwi beidio a meddwi dim ychwaneg."

Yr oedd yn dra eiddigeddus dros gapel bychan Cwmorthin, yr hwn yr oedd efe wedi bod yn brif offeryn i'w godi. Ond nid oedd y tir o gwmpas y capel (yr hwn oedd wedi ei roddi gan Arglwydd Harlech) wedi ei gau i fewn, a mynegwyd rywbryd i Thomas Jones fod rhywrai yn y Cyfarfod Misol, gan enwi y Parch. G. Williams, Talsarnau, am ddwyn yr achos i sylw. Daeth Cyfarfod Misol i Danygrisiau tua'r pryd hwnw, a phwy a roddwyd i holi am hanes yr achos ond Mr. G. Williams, yr hwn, ar ddiwedd yr ymddiddan â T. J., a ddywedai, "Fe wna efe ddweyd ychydig pa fodd y mae yr achos yn Nghwmorthin," gan hysbysu y Cyfarfod Misol nad oedd yno eglwys, ond cangen ysgol. Ar hyn dyma T. J. yn dechreu, "Yr oeddych yn dweyd nad oedd acw eglwys. Y mae acw ysgol boreu Sabbath, a phregeth am ddau, a chyfarfod gweddi ar nos Fawrth, a seiat bob yn ail, ac mi fyddai i yn meddwl fod acw rywbeth heblaw hovel lloiau. Dydan ni ddim wedi cau o gwmpas y capel? Nag ydan. Yr oeddwn i yn meddwl am y gair hwnw sydd gan y Proffwyd am y gŵr ac yn ei law linyn mesur,' ac yr oedd y llanc wrth ben y llinyn, yn myn'd yn ei flaen, ac yna yn stopio, ac y mae rhywun yn gwaeddi, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerusalem a gyfaneddir fel maesdrefi (trefi heb gaerau).' Ie, machgen i, dos a'r llinyn yn dy law, dos ymlaen gyda phen y tâp, ymestyn, cerdda, dos yn