Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mhellach eto—dos yn dy flaen! Felly, wn inau yn y byd lle i stopio. Ac mi ddaeth yr hen benill i fy meddwl,-

'Yr Arglwydd bia'r ddaiar lawn,
A'i llawnder mawr sydd eiddo.'

Yr ydw i'n gwel'd, felly, mai'r Arglwydd Iesu pia hi o glawdd i glawdd, ac wn i ddim lle i roi clawdd i lawr." Yr oedd y cyfarfod wedi ei haner syfrdanu, yn enwedig gan y darluniad eirias-boeth o'r bachgen a'r tâp yn ei law. Collwyd llawer o seiadau gwlithog a grymus wedi colli T. J., a chollwyd blaenor oedd wedi gwneuthur ei farc ar y wlad.

Rai blynyddau cyn ei farwolaeth, rhoddodd i fyny bob cysylltiad â'r Gloddfa yn y Rhosydd, ac aeth i fyw am beth amser i Borthmadog, ac wedi hyny i Benmorfa, lle y gwasanaethodd fel blaenor am y rhan ddiweddaf o'i oes. Cyflwynwyd iddo anerchiad a thysteb gan yr eglwys yn Nhanygrisiau ar ei ymadawiad. Cafodd weled y rhan fwyaf o'i blant wedi ymsefydlu yn hynod ddedwydd yn y byd, ac yn dilyn yn llwybrau crefydd a rhinwedd eu tad a'u mam.

Daw coffhad am Evan Roberts mewn cysylltiad â'r Rhiw. Bu un William Roberts hefyd yn gwasanaethu fel blaenor yma am dymor byr; ymfudodd ef a'i deulu i'r America.

GRIFFITH DAFYDD, CEFNBYCHAN.

Dewiswyd ef yn flaenor yn 1848, ymhen pum' mlynedd ar ol ei dderbyn yn aelod eglwysig. Dychwelwyd ef dan weinidogaeth y Parch. D. Rees, Capel Garmon. Er ei fod yn ŵr heb bron ddim addysg ddyddiol, llwyddodd i fynu dysgu darllen ac ysgrifenu Cymraeg yn dda, ac yr oedd yn naturiol yn un o'r rhai cyflawnaf o synwyr. Gallai arfer y synwyr hwnw pan fyddai eraill bron colli eu penau. Yr oedd yn hynod o dawedog hyd nes y gofynid ei farn, ac nid ar unwaith na phob amser y byddai yn barod i ddweyd ei farn. Ond pan