Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y dywedai hi, byddai yn eglur a di-dderbynwyneb, a dyma un o'i ragoriaethau. Gŵr ydoedd yn meddu y cymeriad o fod "yn gyd-ostyngedig â'r rhai isel-radd." Hoff gan ei frodyr fyddai gwrando arno yn dweyd ei brofiad. Safai yn gryf dros ei farn, er hyny ni chyfodai byth wrthwynebiad, ond yr oedd yn hynod foneddigaidd ei ysbryd. Yr oedd dylanwad yn cydfyned â'i eiriau, gan y byddai bob amser fin arnynt. Un o'r rhai mwyaf defnyddiol gyda'r Ysgol Sabbothol. Gwasanaethodd fel trysorydd yr eglwys am flynyddau, a thrysorydd clwb adeiladu y capel yn yr adeg bwysicaf fu arno. Terfynodd ei oes mewn heddwch oddeutu naw mis o flaen ei gyfaill anwyl W. Williams.

WILLIAM MONA WILLIAMS

Efe oedd y mwyaf adnabyddus o'r holl swyddogion, a'r mwyaf dylanwadol, a'r enwocaf ymhob ystyr. Genedigol ydoedd, fel y dynoda yr enw, o Sir Fon. Daeth i Sir Feirionydd i weithio ar Reilffordd Porthmadog a Ffestiniog, ar adeg ei gwneuthuriad, ac yn ol ei eiriau ef ei hun, treuliodd y Sabbath cyntaf ar ol ei ddyfodiad mewn unigrwydd a hiraeth yn agos i Orsaf bresenol Tanybwlch. Yr oedd wedi ymuno â chrefydd cyn gadael Sir Fon. Ymhen rhyw gymaint o amser, ymsefydlodd yn Nhanygrisiau, a rhoddwyd ef ar unwaith mewn gwaith trwy ei ethol yn flaenor. Fel hyn yr ysgrifena ef ei hun, mewn Nodiadau ar hanes crefydd yn yr ardal, na fuont erioed yn argraffedig,-"Yn y flwyddyn 1839, ymhen tua blwyddyn ar ol adeiladu y capel, ychwanegwyd at y ddau hen frawd oedd yn blaenori, frawd arall-dyn ieuanc y pryd hwnw, o Sir Fon-o'r enw William Williams, yr hwn, 'trwy ras Duw,' sydd yn aros hyd y dydd heddyw." Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Mhenmachno, pan oedd Dwyrain a Gorllewin Meirionydd yn un. Y Parch. Owen R. Morris, Minesota, a ddywed, "Nid wyf yn gallu nodi y flwyddyn y