Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daeth W. Mona Williams i gartrefu yn Nhanygrisiau, ond yr wyf yn cofio yr adeg yn dda; cyfododd i sylw yn fuan, a chafodd ei ddewis yn flaenor, ac yr oeddwn yn teimlo yn ddrwg nad allaswn roddi pleidlais drosto, oherwydd fy ieuenctid; yr oeddwn yn meddwl y byd o hono, am y byddai mor gyfeillgar a siriol gyda ni y plant." Un felly ydoedd, nodedig o gyfeillgar a siriol gyda phawb, cefnogol i bobl ieuainc, a medrus hefyd i'w meithrin a'u dwyn ymlaen mewn crefydd. Bu yn America am dymor byr ar ol hyn. Yn Nghyfarfod Misol Talsarnau, Tachwedd 1846, ceir cyfeiriad at ei ddychweliad. "Coffhawyd fod y brodyr Edward Rees a Thomas Williams—pregethwyr a aeth oddiwrthym yn ddiweddar i'r America, yn cofio atom fel Cyfarfod Misol, trwy gyfrwng William Williams, blaenor o Danygrisiau, yr hwn sydd newydd ddychwelyd oddiyno."

Yn Llangefni yr ymunodd â chrefydd. Yr oedd yn gwasanaethu yn Lledwigan, ac mewn odfa wlithog yn y capel eisteddai brawd crefyddol a meddylgar yn ei ymyl, o'r enw William Edwards, yr hwn a wyddai am argraffiadau crefyddol ei feddwl, ac yn gweled ei fod yn teimlo yn ddwys o dan y weinidogaeth y tro hwnw, a ddywedai ynddo ei hun, "Wel, fe erys W. W. ar ol heno." Ond chwilio am ei het i fyned allan yr oedd. Cydiodd yntau yn nghwr ei goat, a gwnaeth iddo eistedd. Felly y noswaith hono, ac yn y dull hwnw y bwriodd ei goelbren gyda phobl yr Arglwydd. "Lawer gwaith," ebai y Parch. James Donne, yr hwn a adroddai am yr amgylchiad ar ddydd ei angladd, "y bum yn myned o Langefni i Danygrisiau i bregethu, a'r cwestiwn cyntaf a ofynai W. W. i mi fyddai, Sut y mae William Edwards?' Ac nid unwaith na dwywaith y rhoddodd yn fy llaw haner sovereign i'w rhoddi i W. Edwards." Dyna beth tâl i'r gwr roddodd help iddo i ymuno â chrefydd, drwy gydio yn ymyl ei wisg.

Treuliodd W. Williams oes ddefnyddiol o'r dydd hwnw