Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Hen Gapel," neu o'r hyn lleiaf gellir casglu hyny, gan y gelwir y cae tu ol i'r tŷ hyd heddyw, Cae'r Hen Gapel. Yn y capel hwn a gelwid ef yn gapel y pryd hyny-yn rhywle o 1785 i 1790, cafodd y Parch. John Jones, o Edeyrn, odfa effeithiol iawn. Adroddwyd yr hanes gan Robert Jones, Rhoslan, wrth Griffith Solomon. Yr oedd cyhoeddiad Mr. Jones, pan yn ŵr ieuanc, ryw ddydd gwaith ar ganol cynhauaf gwair, yn Nhrawsfynydd. Rhyw amaethwr a ddywedai wrth y rhai oedd ar waith ganddo gyda'r gwair, "Mi a'ch gadawaf chwi am enyd, ac a af i'r capel i wrando pregeth; gwnewch chwithau eich goreu." Ac ymaith ag ef tua'r capel, ond ymhen ychydig troes yn ei ol, a dywedodd, "Yr wyf yn clywed fod rhywbeth anghyffredin yn canlyn y dyn sydd i fod yn y capel heddyw; mi hoffwn i chwi ddyfod i gyd i wrando arno." Felly yr aethant oll, yn chwech o nifer; a sicrheir fod pob un o honynt wedi derbyn bendith gan Dduw, ac wedi eu dychwelyd at grefydd. Prin ugain mlynedd y buwyd yn addoli yn y rhan o'r pentref a elwir Stryd Fain. A'r oll sydd yn wybyddus am yr eglwys y tymor hwn ydyw ychydig o grybwyllion am rai o'r blaenoriaid, yr hyn a welir eto yn mhellach ymlaen.

Yn y flwyddyn 1798 yr adeiladwyd y capel cyntaf. Safai hwn yn yr un man a'r capel presenol, ond nid yn hollol yr un dull. Yr oedd y capel cyntaf a'i dalcen i'r ffordd, a'i wyneb i gefn y tai sydd yn cyd-redeg âg ochr yr un presenol. Nid oedd yn cynwys ar y dechreu ond pulpud a dwy sêt. Llenwid y gweddill o hono â meinciau, ac ni bu yn gapel a'i lon'd o seti am ddeugain mlynedd. Rhifai y gwrandawyr yn y capel hwn yn rhywle o bedwar ugain i bedwar ugain a phymtheg. Dechreuwyd yr Ysgol Sul yn bur foreu yn Nhrawsfynydd, yn foreuach nag un man arall yn Ngorllewin Meirionydd. Bu hefyd yn ysgol lafurus ac effeithiol drwy y blynyddoedd, yr hyn oedd i'w briodoli, yn yr amser a basiodd, i fesur helaeth, i