Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn yn hanes Richard Jarrett yn profi yn lled eglur nas gellir casglu fod cychwyniad wedi ei roddi, gyda dim graddau o gysondeb, i'r achos yn Nhrawsfynydd yn flaenorol i 1780. Y crybwylliad cyntaf am yr eglwys, fel y cyfryw, yma, hyd y gwelsom, sydd yn hanes bywyd John Ellis, Abermaw. Cafodd y gŵr hwn ei benodi yn un o'r rhai cyntaf fel ysgolfeistr yr Ysgolion Rhad cylchynol, o dan arolygiaeth y Parch. T. Charles, o'r Bala. Bu peth petrusder ynghylch ei gyflogi, oherwydd ei anfedrusrwydd, a'i ddieithrwch i'r gwaith. "Ond ar daer ddymuniad y brodyr yn eglwysi Ffestiniog a Thrawsfynydd, anturiwyd ei gyflogi." Ymunodd John Ellis â'r ysgolion hyn oddeutu y flwyddyn 1785. Oddiwrth y cyfeiriad hwn, ac amryw ffeithiau eraill, yr ydym yn tueddu i gasglu fod cychwyniad yr achos yn Nhrawsfynydd yn gydamserol a'r cychwyniad yn Llan Ffestiniog, sef yn fuan ar ol y flwyddyn 1780.

"Y tŷ cyntaf," yn ol y traethawd a ysgrifenwyd dair blynedd yn ol, "a roddodd achles i Fethodistiaeth yn yr ardal hon oedd y tŷ isaf yn Stryd Fain." Yn y cofiant a ysgrifenwyd am Mr. Richard Jarrett, yn 1827, dywedir mai yn ei dy ef y pregethwyd gyntaf, ac mai "yno y byddent yn pregethu am amryw flynyddau." Cyn belled ag y gellir gweled oddiwrth y tystiolaethau, yr ydym yn dyfod i'r casgliad mai yn y tŷ hwn yn y pentref y preswyliai Richard Jarrett. Mewn cofiant byr i Edward Roberts, y pregethwr, yn Ngoleuad Cymru 1829, dywedir mai "efe a'i frawd R. Roberts fuont yn foddion i gael lle i bregethu yn mhentref Trawsfynydd." Ond ni hysbysir yr adeg. Mae yn ffaith, pa fodd bynag, mai yn y Stryd Fain yr ymgynullai y frawdoliaeth i addoli am gryn lawer o amser ar y dechreu. Mae yn debyg i'r tŷ hwn gael ei neillduo, fel yr oedd yr achos yn cynyddu, yn gwbl at wasanaeth crefydd. Troed ef, fel y gwnelid yn fynych mewn lleoedd eraill y blynyddoedd hyny, o fod yn dy anedd yn addoldy. Gelwid ef yr