Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am lawer o flynyddoedd ar ol i'r achos ddechreu yn Mhandy-y-Ddwyryd, yn gymaint felly na feiddiai neb o'r pregethwyr fyned trwy y pentref, heb son am bregethu yno. Yr amser hwn oedd yr adeg y ceir crybwylliad am dano yn Methodistiaeth Cymru: "Adroddai John Evans (Bala) y byddai ef, a dau frawd eraill, yn cychwyn o'r Bala ar foreu Sabbath, i gadw cyfarfod gweddïo yn Mlaen-lliw am naw, a Phandy-y- Ddwyryd am ddau o'r gloch, a dychwelyd yn ol i'r Bala yr un diwrnod, a hyny ar eu traed. Yr oedd hyn, debygid, oddeutu 35 milldir. Dywedai yr hen wr y buasai yn dda ganddynt gael bara a chaws yn Nhrawsfynydd wrth ddychwelyd, ond yr oedd yn rhaid i ni (meddai) gadw ymhell oddiwrth y pentref hwnw.'"

Yn Ngoleuad Cymru am Mawrth, 1827, ceir byr-gofiant am Mr. Richard Jarrett, o Drawsfynydd. Yr oedd y gŵr hwn wedi treulio boreu ei oes mewn oferedd a gwagedd, ond tua'r flwyddyn 1778, cafodd dröedigaeth amlwg iawn. A'i hanes o hyny allan ydyw, "Bu Richard Jarrett yn un o'r prif offerynau i gael pregethu i ardaloedd Trawsfynydd, Maentwrog, Ffestiniog a'r cymydogaethau. Yn ei dy ef y dechreuwyd pregethu gan y Trefnyddion Calfinaidd gyntaf o un man yn mhlwyf Trawsfynydd. Ac yn ei dŷ ef y byddent yn pregethu am amryw flynyddoedd. Efe ydoedd y mwyaf nodedig o bawb yn yr ardaloedd hyn am gael cyhoeddiadau pregethwyr o'r Gogledd a'r Deheudir, i ddyfod yma i gyhoeddi gweinidogaeth y cymod. Llawer o weithiau yr aeth i'r Deheudir i'r perwyl yma ar ei draed." Adroddir hanes hefyd am Richard Jarrett yn myned gyda Griffith Siôn, o Ynysypandy, o Drawsfynydd i Ddolgellau, pryd yr oedd erledigaeth fawr yn y dref hono, yr hwn hanes sydd yn cyfateb i'r blynyddoedd cyntaf ar ol tröedigaeth y blaenaf, amgylchiad sydd yn rhoddi ar ddeall nad oedd neb arall yn Nhrawsfynydd ar y pryd a feddai wroldeb i fyned ar y fath neges. Mae y ddau ddigwyddiad