Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ddechreuad a Chynydd Methodistiaeth yn Nhrawsfynydd, gan Mr. Ellis Williams (Iolo Prysor), Isallt, Trawsfynydd, yr hwn oedd yn draethawd gwobrwyedig mewn Cyfarfod Cystadleuol a gynhaliwyd yn y lle y flwyddyn hono. Cafodd yr awdwr, oherwydd ei gysylltiadau â'r ardal, lawer o fantais i holi yr hen bobl am ddechreuad yr achos, ac y mae mewn modd rhagorol wedi crynhoi ynghyd bron gymaint o ffeithiau ag a allesid gael. Y mae diolchgarwch yn ddyledus iddo ef am ei ddiwydrwydd yn casglu yr hanes. Gwneir defnydd helaeth o'r traethawd hwn yn yr hanes a roddir yma.

Y mae Pandy-y-Ddwyryd, lle mae yn wybyddus fod cymdeithas eglwysig wedi ei sefydlu oddeutu y flwyddyn 1757, trwy offerynoliaeth yr hynod Lowri Williams, bron ar derfynau plwyf Trawsfynydd. Ychwanegwyd yn fuan, at yr wyth enaid a wnelai i fyny y gymdeithas yno, y nifer o bump eraill, ac yr oedd un o'r pump o Drawsfynydd. Gwelwyd hefyd, oddiwrth hanes yr achos yno, fod cysylltiad masnachol agos rhwng John Pritchard, gŵr Lowri Williams, â'r pentref hwn. Ffaith arall ydyw, mai un genedigol o'r ardal hon ydoedd Edward Robert, y pregethwr a'r blaenor a ofalai am yr achos yn Pandy-y- Ddwyryd o'r dechreuad. Magwyd ef y rhan foreuaf o'i oes yn y Wernbach, ffermdy oddeutu tair milldir o'r pentref, ar lan afon Eden, neu afon Crowgallt. Mae y ffeithiau hyn yn gyfryw y gellir dibynu arnynt. Ac oddiwrthynt, tynir casgliad yn y traethawd a grybwyllwyd, fod yr achos Methodistaidd wedi ei gychwyn yn Nhrawsfynydd yn rhwyle rhwng 1757-1760. Ond amlwg ydyw, oddiwrth ffeithiau eraill, fod yr adeg yma gryn lawer yn rhy foreu. Faint bynag o sel a berthynai i'r crefyddwyr cyntaf, nid ar unwaith yr oeddynt yn dechreu achos newydd. Yn hytrach, elent bellder mawr o ffordd er mwyn glynu wrth y frawdoliaeth y perthynent iddi. Ac yn araf hefyd yr oedd y disgyblion yn amlhau y dyddiau hyny. Mae yn wybyddus fod erlid mawr yn Nhrawsfynydd