Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o Bantycelyn am Mrs. Grace Price, o Watford, yn gwrando ar y Parch. David Jones, o Langan:—

"Yn Llangan o dan y pulpud,
'Roedd ei hysbryd, 'roedd ei thref,
Tra fai Dafydd yno'n chwaren
'N beraidd ar delynau'r nef.
Iesu'r text a Iesu'r bregeth
Iesu'r ddeddf, a Iesu'r ffydd,—
Meddai Jones, a hithau'n ateb,—
Felly mae, ac felly bydd!"

Pwy yn yr oes hon a gafwyd yn debyg i William Williams am fod yn gareg ateb i'r pregethwr, ac i ddweyd dan y weini dogaeth, "Felly mae, ac felly bydd?" Bu yn flaenor am haner can mlynedd, a therfynodd ei yrfa faith mewn llawenydd mawr, ar y 23ain o Ebrill, 1889, yn 80 mlwydd oed, a chladdwyd ef y Sadwrn canlynol yn ymyl capel Bethesda. Bendigedig yn sicr fydd ei goffadwriaeth ef am amser hir i ddyfod, yn Nhanygrisiau ac yn Ngorllewin Meirionydd. Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. W. W. Morris, Andreas Roberts, John Thomas, R. Williams, Board School; Robert Roberts (1890). Mae y Parch. S. Owen wedi bod yn weinidog yr eglwys er 1865; y cysylltiad hwyaf sydd wedi bod hyd yma yn Sir Feirionydd rhwng eglwys a'i gweinidog.

Gwrandawyr, 782; cymunwyr, 386; Ysgol Sul, 571.

TRAWSFYNYDD.

Y mae hen achos gan y Methodistiaid yn Nhrawsfynydd. Nid oes ond pedair neu bump o eglwysi yn Ngorllewin Meirionydd y gellir cael sicrwydd eu bod yn hŷn na'r eglwys yn y lle hwn. Ac eto, ychydig o hanes yr achos yma yn ei ddechreuad sydd i'w gael yn unman. Ychydig grybwyllion yn unig a geir am y lle yn Methodistiaeth Cymru.

Yn y flwyddyn 1887, ysgrifenwyd traethawd helaeth ar