Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Oherwydd ei onestrwydd yn y tro hwn, llwyddodd drachefn, a daeth yn berchen eiddo. Bu farw Hydref 5ed, 1826, yn 86 oed.

ROBERT ROBERTS.

Yr oedd yn frawd i Edward Roberts, y pregethwr. Adwaenid ef fel Robert Roberts, y siopwr. Bu yn fasnachwr llwyddianus yn High Street. Un o gewri cyntaf y Methodistiaid oedd ef. Bu farw Ionawr, 1818, yn 69 oed.

WILLIAM JONES, O'R NANTFUDR (wedi hyny o Coedcaedu).

Ganwyd ef yn 1770. Dywedir yn "Hanes Enwogion Swydd Feirion," ei fod yn flaenor gweithgar, ac y byddai yn arfer dechreu o flaen pregethwyr, ac esbonio yn achlysurol oddiar y benod. Yn 1794, symudodd o Drawsfynydd i Fathafarn, Llanwrin, Swydd Drefaldwyn. Yn fuan wedi hyny, dechreuodd bregethu; ac am y rhan ddiweddaf o'i oes, adnabyddid ef fel y Parch. William Jones, Dolyfonddu. Yr oedd yn ŵr o ddylanwad mawr. Bu farw Mawrth 1af, 1837.

THOMAS HUGH (tad y Parch. Thos. Hughes, Machynlleth gynt),

oedd un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys. Argyhoeddwyd ef trwy offerynoliaeth Mr. Rees, Llanfynydd, yn y Bermo, yn y flwyddyn 1789. Dywedai y pregethwr "fod yr Arglwydd yn gyffredin yn dechreu gweithredu ar feddwl y rhai ag yr oedd yn meddwl eu hachub, cyn eu bod yn 30 oed." Bachodd y sylw yn ei feddwl, a phenderfynodd ymuno â'r eglwys pan oedd ei hun o gylch 30 oed. Gwnaed ef yn flaenor yn bur fuan. Bu am haner can' mlynedd yn llywio yr achos yma. Yr oedd yn llym a miniog mewn disgyblaeth, a thueddai, fel llawer o'r hen bobl, i wrthwynebu symudiadau ymlaen gyda chrefydd. Ond dyma fel y sieryd y gareg uwchben ei fedd,—"Thomas Hugh, un o henuriaid eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, gŵr pwyllog a chywir, anaml ei eiriau, didderbyn-