Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyneb, ac nid adwaenai y cyfoethog o flaen y tlawd. Bu farw yn 1840, yn 80 oed."

GRIFFITH RICHARD, TYDDYNGAREG (wedi hyny o Lwynderw).

oedd flaenor, fel y'n hysbysir, yn yr hen gapel, ac am ychydig yn y capel a'i dilynodd. Gŵr pwyllog a chadarn ei gymeriad oedd yntau. Bu farw Awst 1845, yn 71ain oed. PARCH. RICHARD JONES, BALA. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Tafarntrip, yn mhlwyf Ffes tiniog. Bu yn cymeryd gofal un o ysgolion Mr. Charles yn Nhrawsfynydd. Yn 1815, dechreuodd bregethu, a thraddododd ei bregeth gyntaf yn nghapel Cwmprysor. Yr oedd yn bregethwr defnyddiol, ac yn ŵr dylanwadol yn y sir. Treuliodd ran olaf ei oes yn y Bala, ac yno y bu farw, Ebrill 17, 1840, yn 55 oed.

PARCH. JOHN PETERS.

Y mae enw y gŵr hwn yn fwy cysylltiedig â Thrawsfynydd na'i gydweinidog a llafurwr, oblegid yma y diweddodd ef ei oes. Coffheir am dano yn fynych yn y wlad yn awr, ymhen agos i driugain mlynedd ar ol ei farw. Brodor ydoedd o Langower, gerllaw y Bala. Argyhoeddwyd ef trwy weinidogaeth y Parch. John Evans, New Inn. Dechreuodd bregethu pan yn 23 mlwydd oed. Yn 1823, ymbriododd â gweddw Mr. Thomas Roberts, o Drawsfynydd, a symudodd yma i fyw. Yn 1827 ordeiniwyd ef, yr un adeg a'r Parch. Henry Rees. Ymben deuddeng mlynedd ar ol ei ddyfodiad i Drawsfynydd, anmharodd ei iechyd, ac ar y 26ain o Ebrill, 1835, bu farw, yn 56 mlwydd oed, yr hyn a barodd alar mawr ymysg lliaws crefyddwyr Sir Feirionydd. Yr oedd John Peters yn ŵr anwyl iawn yn ei wlad, ac yn bregethwr hynod o dderbyniol. "Yr oedd prydferthwch ei wedd, sirioldeb ei dymer, melusder ei ddawn, a phwysigrwydd ei athrawiaeth, yn cyd-wasanaethu i