Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enill iddo wrandawyr a chyfeillion lawer." "Meddyliais," ebai Daniel Evans, Harlech, "am Apolos lawer gwaith wrth ei wrando, ac nid ydwyf yn cofio fy mod un amser yn ei wrando na byddai gwlith yn disgyn ar ryw gwr i'r gynulleidfa." Byddai ganddo ddywediadau byrion, awchlym, yn ei bregethau. Llefarai un tro am undeb â Christ a galwodd sylw y gynulleidfa yn y geiriau canlynol, "Bobl, mae ffordd i uffern o bobman ond o Grist; ond os cewch undeb â Christ, chwi gollwch y ffordd i uffern am byth." Dro arall, pan yn pregethu ar Ddameg y Deng Morwyn, galwodd yn ddeffrous ar ei wrandawyr, "Bobl, edrychwch am fod eich crefydd yn un a ddeil i'w thrwsio." Heblaw bod yn bregethwr hynod o felus, safai mewn parchusrwydd ymysg ei holl frodyr.

Cynyddodd y boblogaeth yn Nhrawsfynydd oddeutu yr un adeg ag y bu y cynydd yn Ffestiniog. Ac yn y flwyddyn 1839, yr ydym yn cael i dri o gapeli newyddion gael eu hadeiladu yn y Dosbarth-Peniel, Ffestiniog; Nazareth, y Penrhyn; a Moriah, Trawsfynydd. Ystyrid y capeli hyn ar y pryd yn rhai anghyffredin o fawr a phrydferth. Cafwyd cryn lawer o wrthwynebiad yn Nhrawsfynydd i ymgymeryd â'r anturiaeth o adeiladu capel mor fawr. Dywediad un o'r hen flaenoriaid goreu yn y lle ydoedd, "Mi gewch wel'd y byddwch mewn trybini." Ond penderfyniad y lliaws a orfu, a dywedir fod tipyn o arian wrth gefn wedi eu casglu yn barod i gychwyn yr anturiaeth. Nid ydyw traul adeiladu y capel hwn ar gael. Ymhen y pum' mlynedd, sef yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, Ionawr 1845, yr ydym yn cael y penderfyniad canlynol yn cael ei basio,-"Sylwyd ar amgylchiadau y capelydd sydd dan ddyled fawr, megis Trawsfynydd, Ffestiniog, a'r Penrhyn. Daeth y brodyr i'r penderfyniad canlynol, sef bod i'r cyfeillion yn y capelydd uchod gasglu a allant yn nghorff y flwyddyn hon, a dyfod a chyfrif teg o'r arian a gasglant i'r Cyfarfod Misol yn nechreu y flwyddyn nesaf, a bydd yr un