Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/175

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

swm ag a gasglasant hwy yn cael ei roddi iddynt o'r Cyfarfod Misol yn yr ochr ddeheuol o'r sir-swllt at bob swllt, punt at bunt, cant at gant-penderfynwyd hyn trwy godiad deheulaw." Adroddodd Morris Llwyd yr hanes hwn yn y seiat ar ol dyfod adref o'r Cyfarfod Misol. A dywedodd Griffith Richard, Tyddyngareg, yn y fan a'r lle, "Mi rof fi 50p. os gwnewch chwi hwy yn 100p." Y canlyniad fu iddynt gasglu 120p. Erbyn myned i'r Cyfarfod Misol ymhen y flwyddyn, yr oedd y brodyr yno wedi dychrynu, ac nis gallent roddi i'r cyfeillion yn Nhrawsfynydd ond 80p. Yr oedd yn aros o ddyled y capel hwn 180p, yn y flwyddyn 1850, a buwyd ddeunaw mlynedd yn cwbl glirio y swm hwn. Yn 1870, rhoddwyd oriel ar y capel gyda thraul o 262p. 15s. Ac yn 1871 adeiladwyd tŷ da i'r gweinidog, yr hwn a gostiodd 313p. Ss. 2c. Yn 1885, adeiladwyd y capel am y trydydd tro i'r ffurf hardd sydd arno yn bresenol. Aeth y draul i adeiladu y waith hon yn 1836p. 1s. 8c.

Ceir hanes y canghenau eglwysi a gyfododd o Drawsfynydd eto ar eu penau eu hunain, ond mae Ysgoldy Cacadda yn gofyn am sylw byr yma. Sefydlwyd ysgol Sul yn y rhan yma o'r ardal ar y cyntaf mewn tŷ a elwir Tŷ'ntwll, lle y preswyliai un Tudur Thomas, oddeutu y flwyddyn 1790. Ryw ddiwrnod, tarawodd yr adnod hono i feddwl T. T. yn fywiog iawn,- "Hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedy â hi." Dylanwadodd yr adnod ar ei feddwl mor gryf, fel yr aeth ati ar unwaith i gasglu plant y gymydogaeth i'w dy ar y Sabbath i'w dysgu i ddarllen, a phan ddywedai yr hen wraig wrtho am adael plant pobl yn llonydd, ac addysgu ei blant ei hun, distawai hi trwy alw ei sylw at eiriad yr adnod, "Hyfforddia blentyn," ac nid dy blentyn. Felly y cychwynwyd yr ysgol yma, a bu T. T. yn arolygwr arni tra fu byw. Dygwyd hi ymlaen o'r naill dy i'r llall am agos i driugain mlynedd, pryd y penderfynwyd cael ysgoldy. Cafwyd tir yn