Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flaenorol i 1839. Edmund Jones, y Shop, hefyd a etholwyd yr un adeg; ond oherwydd rhyw resymau, ni wasanaethodd ef y swydd o flaenor gyda'r Methodistiaid. Gŵr distaw ydoedd Evan William, ond gwastad ei rodiad, a thra defnyddiol gyda'r achos. Yn ei ymadawiad collwyd un o ffyddloniaid Seion. Gadawodd y fuchedd hon Rhagfyr 1853, yn 55 mlwydd oed.

EDWARD HUMPHREY.

Derbyniwyd ef, Mr. Jarrett, a David Roberts, yn aelodau o'r Cyfarfod Misol Rhagfyr 1848. Dyn plaen a di-dderbynwyneb oedd ef. Byddai yn ymylu weithiau ar fod yn gâs a brwnt, ond diameu mai ei onestrwydd a chywirdeb ei amcan oedd wrth wraidd ei ymddygiad. Tymor byr fu iddo ef yn ei swydd. Cymerwyd ef adref Mehefin 1852, yn 71 mlwydd oed.

MORRIS LLWYD, CEFNGELLGWM.

Y gŵr hwn oedd y mwyaf enwog o holl flaenoriaid Trawsfynydd, ar gyfrif meithder yr amser y bu yn y swydd, yn gystal ag oherwydd ei alluoedd a'i ffyddlondeb, bron anghymarol. Yr oedd yn disgyn o deulu hynafol y Llwydiaid o Gynfal, plwyf Maentwrog, sef Hugh Llwyd a Morgan Llwyd. A mab iddo ef ydyw Morgan Lloyd, Ysw., Q.C, diweddar Aelod Seneddol dros Fwrdeisdrefi Môn.

Ganwyd Morris Llwyd yn Cefngellgwm, amaethdy gerllaw pentref Trawsfynydd, yr hwn le oedd yn dreftadaeth i'r teulu. Cafodd ei hyfforddi mewn gwybodaeth Ysgrythyrol yn dra ieuanc, gan un a elwid Tomos y Melinydd, fel y daeth yr un mwyaf hyddysg yn ei wybodaeth o'r Hen Destament o bron bawb yn Nghymru. Bwriadai ei dad ei ddwyn i fyny yn offeiriad yn eglwys Loegr, ac anfonwyd ef i'r ysgol i'r Amwythig gyda golwg ar hyny. Ond oherwydd i wasanaethyddes oedd yn y teulu ddywedyd wrtho nad oedd cymhwysder ynddo i sefyll uwchben pechaduriaid oedd a'u hwynebau ar fyd