Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tragwyddol, ac y byddai eu gwaed yn cael ei ofyn oddiar ei ddwylaw ef, rhoddodd y bwriad heibio am byth. Dywedir y byddai yn arfer myned i wrando pregethu i hen gapel cyntaf y Methodistiaid, yr hwn oedd yn y Stryd Fain, ac mai yno y bachodd y gwirionedd yn ei feddwl. Pan yn ddeunaw oed, rhoddodd ei hun yn gyntaf i'r Arglwydd, ac yna i'w bobl. Ymgymerodd â gweithio gyda chrefydd ar unwaith. Llithrodd i'r swydd o flaenor heb yn wybod iddo ei hun na neb arall. Ni bu dewisiad arno i'r swydd gan yr eglwys, na derbyniad iddo gan y Cyfarfod Misol. Fel y digwyddodd i lawer o'r tadau, tyfodd Morris Llwyd yn ddiacon yn naturiol, ac ni ddarfu i neb erioed lenwi y swydd yn ffyddlonach. Rhan bwysig o'i wasanaeth fel blaenor, trwy gydol ei oes, ydoedd porthi y praidd â gwybodaeth ac â deall, eu cynghori a'u rhybuddio, a dal i fyny burdeb disgyblaeth eglwysig. Mynychai y Cyfarfodydd Misol yn lled gyson, a gwrandewid yn barchus bob amser ar ei gynghorion pwyllog. Yr oedd yn un o'r blaenoriaid a law-arwyddodd Weithred Gyfansoddiadol y Cyfundeb.

Treuliodd oes faith fel un o wyr parchusaf ei ardal, a chan ei fod yn freeholder, rhoddid iddo yn wastad le uwch na'r cyffredin o drigolion y plwyf. Cymerai y blaen gyda symudiadau a chymdeithasau daionus yr oes. Ond yn yr eglwys, a chyda yr Ysgol Sabbothol y rhagorodd fwyaf. Bu yn ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion am yn agos i haner can' mlynedd; ac mae y gwaith a wnaeth gyda hyn yn gof-golofn goffadwriaethol i'w enw. Ceir ychwaneg am dano yn y cysylltiad hwn yn y benod ar yr Ysgol Sabbothol. Dywedir am dano, "ei fod wedi gosod ei wyneb yn deg tua'r nefoedd, a phe buasai pawb yn y plwyf yn troi yn ol, buasai ef yn myned ymlaen yn debyg fel o'r blaen." Yr oedd yn un o'r blaenoriaid mwyaf defnyddiol a dylanwadol yn y rhan yma o Sir Feirionydd; y mae ei enw i'w gael mewn cysylltiad â phob symudiad o bwys