Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynglyn a'r Cyfarfod Misol am faith flynyddoedd. Wedi bod am driugain mlynedd yn llenwi cylchoedd o ddefnyddioldeb, bu farw Ebrill 9, 1867, yn 77 mlwydd oed.

JARRETT JARRETT, GLASFRYN.

Yn ddiweddar y cymerwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr, ac felly mae y cof am dano eto yn fwy byw yn y wlad nag unrhyw un o'i gyd-swyddogion a'i rhagflaenodd i ogoniant. Yr oedd yntau yn hanu o un o deuluoedd parchusaf y plwyf. Mae Jarrett yn enw teuluaidd yn yr ardal a'r cylchoedd. Treuliodd ef oes faith a defnyddiol yn y lle, ac yr oedd y bwlch yn fawr ar ei ol. Parhaodd cysylltiad agos rhyngddo a Methodistiaeth am dros driugain mlynedd. Cafodd fantais fawr pan yn ieuanc i ymgydnabyddu a chrefydd yn ei phethau goreu, oblegid lletyai llawer o'r pregethwyr yn ei gartref. Yn y Glasfryn y lletyai yr anfarwol John Elias, pan ar ei deithiau yn a thrwy Feirion. Ysgrifenodd y pregethwr poblogaidd lawer o lythyrau at ei gyfaill i.uane yn Nhrawsfynydd, yn llawn cynghorion doeth a chrefyddol, yr hyn a ddengys fod ganddo feddwl mawr o hono, er ieuenged ydoedd. Parhaodd y cysylltiad hwn rhwng y Glasfryn â gweinidogaeth a gweinidogion yr efengyl ar hyd ei oes.

Llanwodd Mr. Jarrett gylchoedd o ddefnyddioldeb mawr ymysg ei gydoeswyr. Yr oedd yn fasnachydd llwyddianus ac yn amaethwr cyfarwydd. Yn ei gysylltiadau masnachol, meddai gryn wybodaeth ynghylch cyfferiau meddygol, a gwnaeth lawer o ddaioni i'w gyd-ddynion gyda'r cyfryw bethau. Bu yn llanw y swydd o arolygwr yr Ysgol Sabbothol am flynyddoedd meithion. Dewisasid ef yn flaenor eglwysig ddeugain mlynedd union i'r flwyddyn y bu farw. Ac ar ol i'r hen batriarch Morris Llwyd noswylio, arno ef y disgynodd y fantell, a'r rhan drymaf o'r cyfrifoldeb gyda'r gwaith. Cynrychiolai yr eglwys yn fynych yn y Cyfarfodydd Misol a'r Cymanfaoedd.