Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwnaeth ei ran i wella yr achos ymhob ystyr, a safodd yn gryf o blaid y weinidogaeth. Yr oedd ei grefydd a nawseidd-dra ei ysbryd yn amlwg iawn yn niwedd ei oes, a theimlai ymlyniad cryf wrth bob peth a berthynai i deyrnas y Cyfryngwr. Bu yntau farw mewn oedran teg, yn mis Ionawr, 1888. Yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol hyny, "gwnaethpwyd coffhad serchus am Mr. Jarrett, Trawsfynydd, yr hwn a fu yn ŵr cymeradwy ac uchel ei barch yn yr ardal hono ar hyd ei fywyd, a'r hwn hefyd oedd yn dra adnabyddus i gylch eang o Fethodistiaid yr oes hon a'r oes o'r blaen. Hynodid ef fel dyn duwiol, gwybodus, ac ymroddedig gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu."

Y mae David Roberts, yr hwn sydd eto yn aros, ac yn awr yn henafgwr, heblaw gwasanaethu yn ffyddlon y swydd o flaenor am dros ddeugain mlynedd, wedi bod yn wasanaethgar hefyd mewn cylchoedd eraill, megis gyda chaniadaeth y cysegr, a lletya gweinidogion y Gair am lawer o flynyddoedd. Bu Mr. Morris Roberts, Brynysguboriau, wedi hyny o Dysefin, ond sydd yn awr wedi ymfudo i'r America, yn flaenor yma.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt,—Mri. David Roberts (er 1848), Cadwaladr Williams (er 1861), David Morris, William Evans, John Williams, a John Jones.

Rhif y gwrandawyr, 506; cymunwyr, 230; Ysgol Sabbothol, 336.

CWMPRYSOR.

Y Cwm sydd yn ymestyn oddiwrth Drawsfynydd, gydag ochr y Rheilffordd i gyfeiriad y Bala, ydyw Cwmprysor. Wrth deithio gyda'r Rueilffordd, mae y capel i'w weled yn y gwastad islaw, gyda thŷ wrth bob talcen iddo, a'i olwg allanol erbyn hyn yn dechreu myned yn henafol. Cwyna y brodyr yn y lle hwn mai ychydig o ffeithiau sydd ar gael i'w croniclo o fewn cylch amseryddiaeth. Y mae sicrwydd, fel y ceir