Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gweled yn y benod ar yr Ysgol Sabbothol, i ysgol gael ei dechreu yn y Bwlchgwyn, yn y gymydogaeth hon, mor foreu a'r flwyddyn 1787. Yn y tŷ hwn y trigianai Hugh Roberts yr hwn a grybwyllodd gyntaf am ddechreu ysgol wrth Edward Roberts, "Vicar y Crawcallt," tra yr elent eu dau i'r moddion crefyddol i Frynygath, ac mewn gweithdy perthynol iddo ef y dywedir ei bod yn cael ei chynal gyntaf. Bu yn symudol o dy i dŷ yn yr ardal hyd nes y daeth i'r capel; ac yno y bu yr hen frodyr ffyddlon Richard Griffith, Glanllafar, a William Dafydd, Bodyfudda, yn arolygwyr iddi am flynyddoedd lawer. Yr oedd hon yn un o'r wyth ysgol a ffurfient y Dosbarth Ysgolion yn 1819. Ei rhif y flwyddyn hono oedd 68, a chadwodd heb fod lawer yn fwy na llai o hyny hyd yn awr. Ei rhif yn 1889, ymhen deng mlynedd a thriugain, ydyw 64.

Adeiladwyd capel Cwmprysor yn 1815. Mehefin y flwyddyn hono ydyw dyddiad y brydles; ei hyd, 999 mlynedd; ardreth flynyddol, 6c. Dau o'r ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt, Lewis Morris ac Owen Williams, Towyn. Yr oedd 20p. o ddyled yn aros yn 1850. Y mae un a wrandawai yn y capel hwn 55 mlynedd yn ol, yn cofio y byddai y plant yn dyfod iddo yn yr haf yn droednoeth-goesnoeth, ac yn y gauaf deuid a llwyth o frwyn o'r mynydd, a thaenid ef ar hyd y llawr, fel y byddai y gwrandawyr yn y moddion hyd eu haner mewn brwyn. Ni wnaed byth fawr ddim cyfnewidiad ar y capel yn allanol, ond y mae ychydig flynyddau yn ol wedi ei adnewyddu a'i wneuthur yn gysurus y tufewn. Yn 1867, rhoddodd Mrs. Davies, Fronheulog, dir am ddim, yn ychwanegol at y tir oedd ar brydles, er mwyn adeiladu tŷ arno mewn cysylltiad â'r capel.

Byddai yn arferiad yma flynyddau yn ol i gadw cyfarfodydd gweddio ar gylch yn holl dai y gymydogaeth, ac ar brydiau byddai arddeliad neillduol yn dilyn y cyfarfodydd hyn. Ar adegau cynhelid cyfarfodydd gweddi yn Mlaenycwm, a phan y byddai yno, deuai brodyr o Gapel Celyn i gyfarfod brodyr