Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bod-y-gun, fel hyn?' Ar ol deall eu neges, anogodd hwy i fyned yn ol at eu gwaith, ac yr anfonai yntau am lwyth o rug iddynt o Lundain. Ond yr oedd newyn yn drech na gorchymyn eu meistr, ac ymlaen â hwy. Anfonasant at Mr. Lloyd, Pen-y-glanau (Llwyd y Twrna), ac at Mr. Oakeley, yr hwn oedd Sirydd y flwyddyn hono, i ymholi pa fodd y gallent weithredu heb fod yn agored i gael eu cosbi. Hysbyswyd. hwy y gallent fynu y blawd, a thori y cloiau os byddai raid, ond erfyniwyd arnynt beidio gwneyd mwstwr. Ar ol cyraedd. 'Cob Madog,' trefnasant eu hunain yn orymdaith fel milwyr, bob yn bedwar, a chryn bellder rhyngddynt, nes yr edrychent. yn fyddin lled fawr. Erbyn cyraedd Tremadog, yr oedd pawb wedi dychrynu, a rhoddwyd yr agoriadau iddynt i gael y blawd. Rhanasant ef yn gyfartal rhwng yr holl ddynion, sef deg pwys ar hugain i bob un. Dychwelasant trwy Lanfrothen. a Bwlch Drws Elen yn llawen, a phawb a'i gydaid blawd ar ei gefn."

Trwy wrthwynebiadau, ac yn erbyn ewyllys y trigolion, yn yr amser aeth heibio, y gwellhawyd cyfleusderau teithio yr ardaloedd. A phenod digon hynod yn eu hanes ydyw hon. Mewn gwlad mor fynyddig, yr oedd cyfleusderau i fasnachu â lleoedd a phobl oedd o'r tuallan, yn anhwylus a thrafferthus. Gwnelai y preswylwyr eu gorchwylion eu hunain mewn ffordd. tra syml. Ac am rai degau o flynyddau ar ol dechreu masnach y cloddfeydd, rhoddid y llechau mewn math o breniau a chewyll, y rhai wedi eu rhwymo a'u gosod ar fulod a cheffylau, a ddygid i lawr trwy lwybrau anhygyrch i le a elwir Congl-y-wal, ac oddiyno dygid hwy trwy lawer o gwmpas i lan afon. Maentwrog. Y mae clod yn ddyledus i S. Holland, Ysw., diweddar Aelod Seneddol dros Meirionydd, yr hwn oedd un o'r rhai cyntaf i anturio i agor prif gloddfeydd Ffestiniog, am ei ymdrechion i wella y ffyrdd i drafaelio. Yn 1832, cafwyd Bill trwy y Senedd i wneuthur y rheilffordd (tram-road)