Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhwng Porthmadog a chwarelau Ffestiniog. Chwefror 26ain, 1833, gosodwyd y gareg gyntaf i lawr; a dechreuwyd cludo y llechau ar hyd-ddi Ebrill 20fed, 1836. I hon dangoswyd gwrthwynebiad penderfynol gan bobl y wlad. Tybiai y cychwyr ar yr afon y byddai gobaith eu helw oll wedi darfod; y ffermwyr a feddylient na fyddai eisiau gwaith o hyny allan i'r ceffylau; pan y delai hyn i ben, tybid na fyddai eisiau troliau a gwageni, ac am hyny y byddai gwaith y seiri coed wedi darfod am byth; a'r un modd y darfyddai gwaith y gofaint oll am na fyddai eisiau pedoli ceffylau mwyach. Gwnaeth hyn i'r wlad godi fel un gŵr i wrthwynebu y ffordd newydd. Yn Vestry Ffestiniog, Mawrth 23, 1831, penderfynwyd fod deiseb yn cael ei hanfon i'r Senedd, wedi ei llawnodi gan y plwyfolion, yn gwrthwynebu y ffordd. Gwnaethpwyd casgliad i gael hyn o amgylch. Aeth y casglyddion at Robert Morris, Glanypwll, i erfyn ei gynorthwy. "Wel," meddai, "wnaiff hi ddim drwg i mi; 'does gen i ddim gwê yn cario." "Fe wna ddrwg i chwi yn siwr," atebai y casglyddion, "pan ddel y ffordd haiarn, ac i bawb beidio cadw ceffylau, bydd pawb wed'yn yn cadw gwartheg, ac ni chewch chwi ddim cymaint o lawer am y llaeth a'r 'menyn." Pan glywodd yntau hyn, rhoes ugain swllt at y casgliad. Yr oedd yn rhaid i enwau y deisebwyr y pryd hwnw fod wedi eu hysgrifenu ar groen. Un o'r dynion a fu a'r ddeiseb o amgylch y wlad—yntau hefyd yn un o'r crefftwyr—a adroddai wrthym dro yn yn ol am yr helynt fawr gyda y gwrthwynebiad hwn. Yr oedd ef ei hun ar y pryd newydd briodi, ac yn dechreu byw, ac wedi bod yn wael ei iechyd, ac yn cael ei gaethiwo i'w dŷ y dyddiau y dechreuwyd gweithio y ffordd haiarn. "Pan y daethum allan o'r tŷ gyntaf ar ol dechreu gwella," meddai, "gwelwn y bobl wrthi yn gweithio y ffordd, ac aeth hyny yn saeth at fy nghalon Ond yn lle dyrysu bywoliaeth y trigolion, gwnaeth y ffordd haiarn lawer o les iddynt, a dygodd lawer o gyfleus-