Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

derau i'r wlad. Rhoddwyd ager—beiriant arni, ac agorwyd hi i deithwyr yn niwedd 1863. Yn 1879 agorwyd Rheilffordd y London a North Western, o gyfeiriad Llanrwst, yr hon sydd yn gampwaith celfyddyd. Ac oddeutu 1883, agorwyd llinell y Great Western, o gyfeiriad y Bala.

Ond ein bwriad oedd rhoddi cipolwg ar agwedd y preswylwyr yn mhellach yn ol na'r digwyddiadau a grybwyllwyd yn y tri pharagraff blaenorol, sef cyn i grefydd, trwy sefydliad yr Ysgol Sabbothol a chyfodiad Methodistiaeth, feddianu y wlad, a newid arferion a chymeriad ei thrigolion. Ychydig o ddigwyddiadau a ffeithiau hanesyddol sydd wedi eu cofnodi am yr hen frodorion. Tuag at gael syniad am eu harferion, rhaid dibynu llawer ar draddodiadau sydd wedi disgyn i lawr, o daid i dad, ac o dad i fab. A dengys y cyfryw draddodiadau mai syml a gwladaidd hynod oeddynt yn y pethau a berthyn i'r fuchedd hon, a thywyll iawn am bethau y fuchedd dragwyddol. Heb ddim cyfoeth i ymffrostio ynddo, ni byddent yn byw yn foethus, ac ni byddent yn gwisgo yn wastraffus, oblegid ni byddai gan feibion y prif amaethwyr ond un suit Sabbothol rhwng dau, ac os byddai y naill frawd yn fwy o gorffolaeth na'r llall, ni byddai dim gwell na gwneyd y suit yn ddigon i'r mwyaf. Ar y defaid a'r geifr y dibynai y trigolion am eu cynhaliaeth, a byddai y gwyr a'r gwragedd yn gwneuthur llawer o'u masnach trwy wau hosanau. Hyny o foddion crefyddol a fwynheid ganddynt, ydoedd yn unig yn y llanau ar y Sabbath, er nad oedd moddion i'w cael yno ond anfynych, ac fel trigolion y wlad yn gyffredin, ar ol bod yn y gwasanaeth boreu Sabbath, elent at y chwareuaethau a arferid yr oes hono, dros weddill y dydd.

Rai blynyddau yn ol, pan yn ysgrifenu i'r Traethodydd ar amryw bethau mewn cysylltiad ag ardaloedd Ffestiniog, Mr. Pierce Davies, Cwmllan, Beddgelert, wedi hyny o Borthmadog, yr hwn oedd yn sylwedydd craff, a'r hyddysgaf o bawb yn