Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hanes trigolion y parthau hyn, a anfonodd i ni, ymysg pethau eraill, y crybwyllion canlynol:—"Mewn perthynas i Ffestiniog, rhyw bur ychydig a welais erioed mewn hen lyfrau am y lle, dim ond yn brin ei enw. Yr wyf yn cofio fy mod un dydd Sadwrn, er's blynyddau lawer yn ol, yn myned adref i Nanmor, a H. S. Jones gyda mi; ac yr oedd rhywun wedi rhoddi llythyr i Hugh, i fyned i Beddgelert, ac fe'i collodd yn rhywle ar yr allt yn agos i dŷ Cwmorthin, a throes yn ei ol i chwilio am dano. Aethum inau i lawr at Siôn Jones, Cwmorthin, i'w aros; ac meddai yr hen ŵr, 'Beth yr oedd Hugh yn troi yn ei ol?' Colli llythyr wnaeth, oedd ganddo i fyned i Beddgelert,' meddwn. Yn enw dyn anwyl, onid oes llawer iawn o drafferth efo rhywbeth felly? Yr ydwyf fi yn cofio, wel'di,' meddai, 'nad oedd o fewn i Blwyf Ffestiniog ddim ond tri a fedrai wneyd llythyr,--Humphra Bumphra oedd yn Glanypwll, a rhywun arall yn Plasmeini, a thad John Davies, Cae'rblaidd, oedd y llall. Yr oedd yr hen ŵr hwn yn fyw wedi pasio y flwyddyn 1860. Hen ŵr o synwyr cyffredin cryf, a chanddo gôf rhyfeddol ydoedd. Medrai, yn ei ffordd ei hun, ddwyn 200 o flynyddoedd o fewn ei gof. Yr oedd ef pan fu farw yn agos i 100 oed, ac yr oedd ei dad yn 95, fel y dengys ei gareg-fedd yn mynwent Ffestiniog. Dull Siôn Jones o draddodi hen adgofion fyddai,—'Mi glywais fy nhad yn dweyd, wedi clywed fy nhaid yn dweyd.' A dyma un o'r pethau hyny. Clywais fy nhad yn dweyd, fod gŵr bonheddig yn byw yn mhlas Tanybwlch, a dywedodd y gŵr bonheddig wrth ei was un bore Sabbath,— Rhaid i ti fyn'd i'r eglwys i Ffestiniog heddyw, i edrych a weli di wr Rhiwbryfdir, a pheri iddo ddyfod a thipyn o arian i mı yr wythnos nesaf.' Wedi i'r gwas ddychwelyd, gofynai, A welais ti ŵr y Rhiwbryfdir?' 'Do.' Beth ddywedodd o?' Dywedodd nad oedd ganddo ddim arian, a pheri i chwi dd'od i ymofyn rhai o'r anifeiliaid oedd yno, os oes arnoch eisiau rhywbeth am