Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eich tir.' 'Wel,' meddai yntau, 'thal hyny ddim i mi, rhaid i ti fyn'd yno eto yfory, a pheri iddo dreio d'od a rhywfaint o arian i mi; y mae arnaf eisiau 17 swllt i fyned i Lundain yr wythnos nesaf.'" Yr oedd yr hen ŵr hefyd wedi cyraedd cryn dipyn o wybodaeth am y byd, ymhell ac yn agos, ac yr oedd rhywun wedi dweyd wrtho fod y ddaear yn troi. Un adeg yr oedd y tywydd yn wlyb iawn er's wythnosau; y pryd hwnw yr oedd un a adwaenai yn dda yn pasio heibio ei dŷ, a gwaeddai arno,—"Pierce, mae nhw yn dweyd fod y ddaear yma yn troi; os ydyw hi yn troi, mae hi wedi sefyll rwan mewn lle gwlyb iawn." Llawer o bethau cyffelyb ellid ddweyd am Siôn Jones a'i hynafiaid, a phethau rhyfedd hefyd ellid eu traethu, er dangos ansawdd cymdeithas ymysg y preswylwyr yn yr amseroedd gynt.

Yr oedd cyflwr yr hen frodorion yn y parthau hyn, fel yn y wlad oll, o ran moesoldeb a chrefydd, yn dra isel a thywyll. O berthynas i agwedd gyffredinol y wlad yn ei harferion a'i moesau, cyn toriad gwawr y diwygiad crefyddol yn y ganrif ddiweddaf, ceir darluniad cywir a chyflawn gan y Parch. John Hughes, yn nechreu y gyfrol gyntaf ar Fethodistiaeth Cymru. Yn gyffelyb i'r darluniad pruddaidd a roddir ganddo ef, yr ydym yn cael fod preswylwyr y bröydd hyn, sef trigolion Trawsfynydd, Penrhyndeudraeth, a Ffestiniog. Nid oedd y Sabbath yn cael mwy o barch ganddynt nag un o ddyddiau eraill yr wythnos, ac nid oedd neb i'w gael a allai oleuo ei gymydog am bethau y fuchedd dragwyddol, oblegid nid oes hanes yn y cyfnod hwn am yr un enaid wedi ei oleuo ei hunan. Yn gwbl mewn tywyllwch a dygn anwybodaeth, ac fel rhai yn breuddwydio y treulient eu dyddiau. Y ffeiriau fyddent y prif gynulliadau, ac un nodwedd arbenig ar ffeiriau y dyddiau gynt fyddai cwerylon ac ymladdfeydd. Ni feddylid am i'r un o'r cynulliadau hyn fyned heibio, heb i ryw ynfytyn herio rhyw ynfytyn arall i ymladd âg ef, a chymerai yr ieuenctyd a'r dynion yn gyffredin