Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ran yn yr ymladdfa, rhai yn pleidio hwn, ac eraill y llall, a'r ymladdwyr wedi ymddiosg hyd yn haner noethion. Mynych iawn y cymerai yr ymladdfeydd crybwylledig le ar ddyddiau eraill, yn enwedig ar ddyddiau gwyl, ac yn aml byddai ardal neu gwm yn cytuno i herio ardal neu gwm arall i ymladd. Gwyl-mabsantau hefyd, y rhai a gynhelid bob amser ar y Sabbath, fyddent yn rhan o'u cynulliadau cyhoeddus. I un o'r cynulliadau hyn yr oedd Griffith Ellis, Pen'rallt, Harlech, yn cyrchu yn llanc ieuanc, pan y galwai heibio Pandy'r Ddwyryd, i ymofyn y ffordd, ac y gofynodd Lowri Williams. iddo, "A fyddi di ddim, fy machgen i, yn ymofyn y ffordd i'r bywyd ar y Sul?" Yr hyn a fu yn foddion uniongyrchol ei dröedigaeth. Eu harfer fyddai cymeryd y Sabbath i drafod eu gorchwylion beunyddiol, ac ystyrid ef ganddynt i fesur fel dydd marchnad; deuent a'u negeseuau at eu cwsmeriaid, a chymerent yr eiddo hwythau yn gyfnewid am danynt, ar ddydd yr Arglwydd. "Dywedai un Richard Owen, gôf o ardal Trawsfynydd, y byddai yn arfer pedoli mwy o geffylau ar y Sabbath na thrwy holl ystod yr wythnos. Os byddai ceffyl gan yr amaethwr wedi colli ei bedol, tybiai mai cyfleusdra manteisiol iddo fyddai cymeryd yr anifail hwnw dano i'r addoliad boreu Sabbath; felly hefyd y gwnai ei gymydogion yr un modd; a llawer o geffylau, gan hyny, a ddygid i'r gôf i'w pedoli ar y Sul. Deallodd Richard Owen, trwy ryw foddion—nid trwy offeiriad y plwyf—nad oedd hyn yn ymddygiad teilwng ar ddydd Duw, a gwrthododd gydsynio i bedoli ceffylau ond ar ddyddiau priodol."[1] Dywedir hefyd i John Prichard, Pandy'r Ddwyryd, priod Lowri Williams, o enwog goffadwriaeth, yr hon y ceir ei hanes mewn penod ddilynol, fod yn foddion i roddi i lawr arferiad ddrwg yn yr un ardal, oddeutu canol y ganrif ddiweddaf. Arferai y panwr

  1. Methodistiaeth Cymru, I., tudalen 55.