Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

grefydd, ac i flaenllymu ei athrylith. Un o'r pethau hynod yn ei hanes ydyw ei dröedigaeth.

Nid oes wybodaeth pa bryd y dewiswyd William Ellis yn flaenor. A'r tebyg ydyw na bu dewisiad arno o gwbl, ond iddo, fel llawer o flaenoriaid y cyfnod hwnw, ddechreu gweithio gyda'r achos nes cael ei hun yn flaenor yn ddiarwybod. Dechreuodd weithio felly yn fuan ar ol 1815. Arferai ef ei hun ddweyd na ddewiswyd mo hono yn rheolaidd erioed gan yr eglwys. Tra yr oedd Dr. Parry, Bala, yn pregethu yn Maentwrog, ar ryw brydnhawn Sabbath, traethai W. Ellis am ei galon ddrwg, ac nas gallai byth anghofio yr olwg a gawsai arni yn Nhrawsfynydd. Gwrandawai Dr. Parry arno, ac o'r diwedd gofynodd iddo,—

"Os ydych yn ddyn mor ddrwg, pa fodd y dewiswyd chwi yn flaenor?"

"Ddewiswyd erioed mo honof fi yn flaenor, Parry bach," ebai yntau.

"Wel, sut yr aethoch chwi i'r swydd?" gofynai y gweinidog.

"O, mi ddeudaf i chwi yn union deg. Rhyw bobl bach pur ddiniwed sydd yma, a minau yn gryn stwffiwr." Ni ystyrid mo hono gan neb yn stwffiwr; ei ffordd ef ei hun o siarad oedd hyn. Tyfodd yn naturiol i fod yn flaenor o enwogrwydd mawr. Yr oedd yn siaradwr a dynai sylw yn fwy nag odid neb o'r urdd yn ei oes. Perthynai iddo wreiddioldeb, a ffraethineb, a duwioldeb neillduol o arbenig. Rhoddid y lle mwyaf cyhoeddus iddo ymhob cynulliad, o'r Ysgol Sabbothol hyd y Gymdeithasfa, a byddai ar rai adegau yn y cynulliadau hyny yn hyawdl tuhwnt i ddisgrifiad. Canlynai enwogion y Cyfundeb yn fynych yn eu teithiau, a dechreuai yr odfeuon o'u blaen. Gwnaeth lawer o sylwadau ffraeth a tharawiadol yn ei oes, y rhai a gofir yn hir ar hyd a lled y wlad. Ond cuddiad ei gryfder ydoedd, "Ei dduwioldeb, ei