Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyny yn myned i'r addoliad i Drawsfynydd. Yn Nghyfarfod Misol Mai 1851, derbyniwyd Owen Humphreys ac Evan Roberts yn flaenoriaid. Parhaodd y ddau i flaenori gyda'u gilydd yn hir. Yr oedd yr hen flaenor hynod William Ellis wedi dysgu pobl Maentwrog i siarad yn ddistaw, ac wedi gosod llawer o'i ddelw ar yr eglwys, fel mai distawrwydd mawr fyddai gan amlaf yn teyrnasu yn yr hen gapel. Dull arafaidd a distaw oedd gan y ddau frawd hyn. Ar ol gwasanaethu ei swydd yn ddiwyd a ffyddlawn am ugain mlynedd, bu Owen Humphreys farw yn mis Mai 1871. Dangosodd Evan Roberts ffyddlondeb yn ol y gallu a roddwyd iddo yntau, ac ymhen rhyw gymaint o amser ar ol marwolaeth ei gyd-flaenor, symudodd oddiyma i Danygrisiau.

Ganwyd William Ellis yn Bronturnor, yr ochr orllewinol i bentref Maentwrog, yn y flwyddyn 1789, a bu farw yn yr un lle yn 1855, yn 66 mlwydd oed. Treuliodd yr ugain mlynedd cyntaf o'i oes yn ddigrefydd, ac yn hollol estronol i foddion gras. Pan o gylch ugain oed, anfonwyd ef gan ei feistr— gwasanaethu yr oedd ar y pryd—ar neges i Drawsfynydd, ac yno yn ddamweiniol, aeth i wrando John Elias yn pregethu, ar ganol dydd gwaith, lle yr argyhoeddwyd ef. Aeth trwy gwrs o helyntion blinion yn ystod ei argyhoeddiad, yn gymaint felly ag y bu agos iddo golli ei synwyr a rhoddi terfyn ar ei einioes. Penderfynodd gynyg ei hun i eglwys y Methodistiaid yn Maentwrog, ond gan mor ddrwg yr oedd yn gweled ei hun, ofnai na chai mo'i dderbyn. Digwyddodd daro ar y Parch. Daniel Evans, Harlech, a gofynai iddo, "Os na bydd y cyfeillion yn foddlawn i mi ddyfod i'r seiat, gofynwch iddynt a wnant hwy weddio droswyf." Bu mewn cyfyngder mawr dros gryn amser pan yn myned trwy fwlch yr argyhoeddiad, ond manteisiodd lawer ar y cyfyngder, gan iddo fod yn foddion i loewi ei