Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyfundeb, gall 188 eistedd yn y capel hwn; y draul i'w adeiladu 774p. 12s. 9c. Yn 1889, prynodd y tair eglwys sydd yn perthyn i'r daith, mewn undeb a'u gilydd, dŷ i'r gweinidog, i fyw ynddo, yr hwn sydd mewn lle hynod o gyfleus.

Yn y Garth Gwyn, fel y crybwyllwyd, y cynhelid y moddion cyn adeiladu y capel cyntaf, ac yr oedd Ffestiniog a Thrawsfynydd gyda'r lle hwn y pryd hyny yn gwneyd i fyny un daith. Yn 1816 y daith oedd, Wern, Penrhyn, a Maentwrog. Bu am dymor maith wedi hyny gyda Ffestiniog, a thrachefn am ychydig gyda Llanfrothen. Y mae yn awr gyda Llenyrch a Maentwrog Isaf, a dau bregethwr y rhan fynychaf yn y daith y Sabbath.

Y mae gofal Rhagluniaeth wedi bod yn fawr am lety i bregethwyr y Methodistiaid yn Sir Feirionydd. Pan fyddai y drws yn cau mewn un man, agorai yn annisgwyliadwy mewn man arall. Felly yn Maentwrog. Y Garth Gwyn oedd lloches yr achos yn agos i gan' mlynedd yn ol. Wedi hyny, bu cartref y pregethwyr yn hir yn Tynant, lle yr oedd John Francis yn byw. Tŷ y capel hefyd fu yn gartref iddynt o dro i dro. Ac amryw eraill a ddangosasant yr un caredigrwydd. Llety dedwydd y fforddolion yn awr er's blynyddoedd ydyw Bryntwrog, gyda Mrs. Jones, a'i mab Mr. W. E. Jones.

Rhoddir yma restr o'r swyddogion mor gyflawn ag y gallwyd ei chael, ond digon tebyg fod ynddi fylchau. Methwyd a chael dim hanes o'r lle. Y blaenoriaid cyntaf oeddynt, Griffith Richard, a John Richard, Tyddynygareg. Yr oedd y ddau yn dda allan yn y byd. Rhoddasant eu dylanwad o blaid yr Ysgol Sabbothol ar y cychwyn cyntaf. Griffith Richard oedd yr arolygwr; meddai ar fesur o dalent, ac ystyrid ef yn ŵr sicr iawn. Dau eraill o flaenoriaid yn yr amser boreuol oeddynt Edward Jones, Gellilydan, a William Richard, Penrhiw. Yn mis Mai 1842, derbyniwyd Edward Edwards, Pandy, yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor. Bu ef dros ryw dymor wedi