Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oblegid i gadw fod ar rai i fywyd tragwyddol yn yr holl deuluoedd. Wrth wrando arno yn adrodd hyn, gofynodd un iddo, os oedd yn meddwl fod ———— yn y nefoedd. 'Oh ydyw, yn sicr ddigon, fy machgen i,' meddai yntau; 'welaist ti erioed lai o deimlad da at Iesu Grist a'i achos raid gael i fyn'd i'r nefoedd.'" Sefydlwyd cangen ysgol, hefyd, yn Tyddynygareg, Mehefin 23ain, 1867, yr hon a rifai o 40 i 45. Bu teulu y tŷ hwn yn garedig iawn iddi.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1810, a thalwyd am y tir 50p. Yr oedd tŷ ac ystabl wrth ei dalcen, yn ol yr hen ddull. Yn yr un flwyddyn, sef 1810, yr adeiladodd yr Annibynwyr gapel Glanywern, "ar ochr y ffordd o Drawsfynydd i Faentwrog, yn y cyfwng rhwng Penyglanau a Phenlan." Deuddeng mlynedd yn flaenorol yr oeddynt hwythau wedi ymffurfio yn eglwys o wyth enaid yn y gymydogaeth, Yr oll a wyddis am ddyled capel cyntaf y Methodistiaid ydyw fod 40p. yn aros heb ei dalu yn 1850. Ac er lleied ydoedd, ceir y penderfyniad canlynol yn cael ei basio yn Nghyfarfod Misol Tachwedd, 1854, "Rhoddwyd caniatad i William Ellis i ddyfod trwy yr eglwysi i gasglu tuag at ddyled capel Maentwrog." Yn 1864, helaethwyd y capel, trwy estyn ei ffrynt yn nes at y ffordd. Ymddengys i'r oes hon mai yr unig gymhwysder i leoliad y capel hwn ydoedd, ei fod wedi ei adeiladu ar ochr y ffordd fawr. Nid oedd yn agos i unman, ond ymhell oddiwrth bron bob preswylfod dynol. syndod ydyw i drigolion y pentref barhau i ddringo i fyny iddo trwy yr holl flynyddoedd. Erys yr hen adeilad ar ei draed eto yn gofgolofn o ffyddlondeb y preswylwyr yn cyrchu iddo bellder ffordd o bob cyfeiriad. Yn 1878, adeiladwyd capel newydd, yn uwch i fyny yn yr ardal, ac yn fwy yn nghanol y boblogaeth. Cafwyd tir i adeiladu yn feddiant gan Mr. Ellis Humphreys, ar delerau tra rhesymol, a chyflwynodd y Cyfarfod Misol ddiolchgarwch iddo am ei garedigrwydd Cristionogol. Yn ol Adroddiad Meddianau y