Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y lle hwn ydoedd o 30 i 40. Yn 1810, adeiladwyd capel uchaf Maentwrog, a symudwyd yr ysgol yno; ac ychwanegwyd at y brodyr a enwyd, Owen Evans, Llechwedd-y-Coed; Meredith Jones, Maentwrog; a William Roberts, Factory." Rywbryd tua 1820, daeth nifer liosocach i fynychu yr ysgol, a dechreuodd diwygiad yn ei dygiad ymlaen, trwy amcanu egluro a deall yr hyn a ddarllenid, oblegid cyn hyny yr hyn yr amcenid ato, bron yn gwbl, oedd dysgu darllen. Ffurfiwyd math o glwb, i'r diben o brynu llyfrau, y rhai a fenthycid i'r ysgolheigion ar gylch. Yn eu plith prynwyd esboniad, a byddai raid gofalu am i'r esboniad gael ei ddychwelyd i'r ysgol erbyn y Sabbath, a dyna lle y byddai ar y bwrdd i ymofyn âg ef os digwyddai i ddadl gyfodi yn rhai o'r dosbarthiadau. Nid oedd ond un dyn ieuanc yn proffesu crefydd yn perthyn i'r ysgol; a chan nad oedd yr hen frodyr ond darllenwyr hynod o wael, os yn wir y medrent ddarllen o gwbl, trefnwyd i'r athrawon nad oeddynt yn proffesu, ddarllen ar ddechreu yr ysgol, ac i'r crefyddwyr weddio. Ymgymerodd yr athrawon, meddir, â'r gwaith hwn yn ewyllysgar, "Ac i brofi nad oedd y gwaith yn faich arnynt, dewisent yn y cyffredin benod lled faith, mor faith fel y gorfodid yr hen frawd Griffith Richard, wrth alw un o'r brodyr anllythyrenog i fyned i weddi, i roddi gorchymyn awgrymiadol, Dos dipyn i weddi yn fyr heb ganu.'" Hysbysir i ddau frawd arall fod o wasanaeth i'r ysgol y tymor hwn, sef Edward Edwards, Pandy, ac Owen Willlams, Gyfynys. Nifer yr ysgol yn 1873 oedd 108.

Oddeutu 1818, sefydlwyd cangen ysgol yn y Dduallt. Am yr ysgol hon y rhed yr hanes,-"Wedi bod yn crwydro e gegin gefn Glanyrafon i Dafarn Trip, Bryn Arthur, Efail Tanybwlch, &c., a gwneyd llawer o ddaioni ymhob lle, dywedai William Ellis nad oedd neb wedi bod ar ei golled o roddi llety i'r ysgol; i bob un o'r teuluoedd y bu ynddynt yn yr ardal hon dderbyn bendithion tymorol ac ysbrydol trwy ei chroesawu,