Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y pryd hwnw rhwng pump a chwech mlwydd oed." Eto, "Calanmai y flwyddyn 1796, rhoddwyd fi yn egwyddorwas i ddysgu'r gelfyddyd o wneuthur dillad. Ac yn y blynyddoedd hyn torodd diwygiad grymus iawn allan gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Ffestiniog, Maentwrog, a Thrawsfynydd, a byddai gorfoledd mawr gan y bobl. Byddai odfa y boreu yn gyffredin yn Ffestiniog, a dau o'r gloch mewn tŷ a elwir Garth Gwyn, plwyf Maentwrog, a byddai yr holl bobl yn neidio a llemain, ac yn canu a bloeddio ar hyd yr holl ffordd, o'r naill le i'r llall, a minau yn cael pleser mawr yn eu canlyn ac yn gwrando arnynt, ac hefyd yn gwrando ar y pregethwr, os bloeddiai ei oreu, ac onite ni fyddai o fawr werth yn fy ngolwg." Mae y crybwyllion hyn yn cyfateb i'r ffaith a geir mewn hanesiaeth, sef, fod diwygiad grymus mewn amryw o ardaloedd Cymru, yn ystod blynyddoedd olaf y ganrif ddiweddaf. Yr ydym yn gweled, hefyd, oddiwrth y dyfyniad, mai yn Garth Gwyn y cynhelid y moddion crefyddol yn Maentwrog y pryd hwn.

Ysgrifenodd y Parch. Elias Jones hanes dechreuad Ysgol Sabbothol Maentwrog a'i changhenau, ac argraffwyd ef gyda'r Adroddiad am 1873. Cafodd yntau y defnyddiau gan mwyaf gan Mrs. Laura Jones, Tanygraig, Blaenau Ffestiniog, gwraig grefyddol wedi ei magu mewn cysylltiad â'r achos yn Maentwrog. A'r wybodaeth a gasglwyd y flwyddyn hono yw bron yr oll sydd yn aros o helyntion crefydd yr ardal, ar ol yr amser dechreuol, hyd ddiwedd yr haner cyntaf o'r ganrif bresenol. Dywed yr hanes hwnw,"Yr ysgol gyntaf y mae unrhyw fanylion am ei hanes yn aros yw, yr un a sefydlwyd yn Tynant, cartref John Francis, rywbryd yn nechreu y ganrif bresenol. Y personau oeddynt yn cymeryd y rhan fwyaf blaenllaw gyda hi oeddynt, Humphrey Jones, Gwylan; John Richard, a'i frawd Griffith Richard, Tyddynygareg; Edward Jones, Gellilydan, ynghyd a theulu y tŷ. Nifer yr ysgol yn