Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MAENTWROG (UCHAF).

Dyma yr eglwys agosaf i Bandy-y-Ddwyryd, lle y planwyd hedyn cyntaf Methodistiaeth yn Ngorllewin Meirionydd. Yn y drydedd benod, rhoddwyd hanes lled fanwl am y digwyddiadau o berthynas i gychwyniad cyntaf crefydd yn y gymydogaeth, hyd farwolaeth Lowri Williams, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1778. Gan i'r hedyn gwreiddiol ddisgyn yn y fro hon, gallesid disgwyl cael ffrwyth toreithiog a didor. Ond fel arall y digwyddodd. Y mae bwlch o fwy na deng mlynedd ar hugain heb i ddim o hanes crefydd yn y gymydogaeth gael ei gofnodi. Nid ydym yn cael ond y nesaf peth i ddim i'w groniclo hyd nes yr adeiladwyd y capel yn 1810, ac nid yw y defnyddiau wedi hyny ond hynod o brinion. Ymdaenodd dylanwad "teulu yr arch" yn fwy dros y cymydogaethau cylchynol, gan adael Maentwrog am flynyddau meithion heb na phroffwyd na phroffwydes o bwys yn cyfodi ar ol marwolaeth Lowri Williams. I wneyd yr hanes i fyny mor gyfan ag y gellir, nis oes genym, gan hyny, ond lloffa ychydig yma ac ychydig acw.

Yn Tafarn-y-trip, ar derfyn plwyf Maentwrog, yn 1784, y ganwyd y Parch. Richard Jones, o'r Bala. Dywed ef, mewn bywgraffiad byr am dano ei hun, nad oedd ei rieni yn nyddiau ei febyd yn grefyddol, a'u bod yn byw mewn cymydogaeth dywyll iawn." Gallwn gasglu oddiwrth ei sylw, nad oedd yn y gymydogaeth ond ychydig o fanteision crefyddol, na dim cyfle i ymuno â chrefyddwyr. Dywed hefyd yn mhellach, yr hyn a rydd radd o oleuni ar amgylchiadau yr amseroedd,- "Yn yr haf y flwyddyn 1790, anfonodd Mr. Charles, o'r Bala, ŵr duwiol i'r gymydogaeth [Hugh Evans, o'r Sarnau, ger y Bala] i gadw ysgol râd Gymreig, yr hon a gedwid mewn tŷ lled wael, a elwid Tŷ'nyfedwen. Ac anfonodd fy rhieni ryw nifer o'u plant i'r ysgol, ac yn un o'r nifer yr oeddwn inau,