Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y cyfrifon. Neillduwyd tri yn flaenoriaid yr un adeg, oddeutu 1863, sef Robert Dafydd, Tŷ capel; John Owen, Ynystomos; ac Owen Evans, Caegwyn.

ROBERT DAFYDD.

Gwasanaethodd ef ei swydd gyda ffyddlondeb. Er nad oedd cyhoeddusrwydd yn perthyn iddo, eto arolygai yr achos gartref gyda gwir ofal calon. Yr hyn a'i nodweddai yn arbenig fel Cristion ac fel swyddog oeddynt, addfwynder, tynerwch, a ffyddlondeb. Bu yn gwasanaethu swydd blaenor am tuag un mlynedd ar hugain, a bu farw yn y flwyddyn 1884.

JOHN OWEN.

Parhaodd yntau yn ei ffyddlondeb, trwy ddilyn y moddion o bellder ffordd, a bu yn wasanaethgar i'r achos tra bu yn aros yma. Symudodd i fyw i Lanelltyd. Bu farw Ebrill 21ain, 1886, yn 84 mlwydd oed.

Symudodd Owen Evans, Caegwyn, ryw bymtheng mlynedd yn ol, i fyw y naill du i Gorwen. Bu ef a'i deulu o wasanaeth mawr i grefydd tra buont yma, ac yr oedd eu colli yn golled fawr. Y maent eto yn para yn eu ffyddlondeb i'r achos goreu. Bu Ellis Williams, Graigddu; David Thomas, a John Jones, Caegwyn; a Cadwaladr Williams, Aber, yn gwasanaethu y swydd, ond y maent yn awr wedi symud o'r ardal. Gwasanaethodd y chwaer Jane Davies, Tŷ Capel, lawer ar yr achos yn Eden. Mae ei thŷ wedi bod yn llety y fforddolion dros lawer o flynyddoedd. Ac yn yr amser gynt, pan oedd y teithio yn gwbl ar draed ac ar feirch, laweroedd o weithiau y troes gweision yr Arglwydd i mewn yma, megis y Meistr mawr wrth ffynon Jacob, i eistedd yn lluddedig, ac i ddiwallu eu hangen, tra nad oedd dim i'w gael yn unman arall.

Y blaenoriaid yn awr ydynt, Robert Williams, Aber, ac Edmund Richards.

Nifer y gwrandawyr, 70; cymunwyr, 34; Ysgol Sul, 56.