Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tua diwedd 1836, pryd yr oedd ei rhif yn 19. Yn Hydref, 1866, sefydlwyd ysgol arall, fel cangen o ysgol Eden, yn Brynteg; ac yn 1869, symudwyd hi i'r Aber, i ystafell eang a roddwyd at ei gwasanaeth gan Robert Williams. Ceir ychwaneg o fanylion am yr ysgolion hyn yn Adroddiad Mr. E. Vincent Evans, am y flwyddyn 1871.

Adeiladwyd capel Elen yn y flwyddyn 1822, ar brydles o 99 mlynedd, ac ardreth flynyddol o 2s. 6c. O ran ei wedd allanol, erys y capel yn debyg hyd heddyw, eithr gwnaethpwyd rhai cyfnewidiadau tufewn iddo. Mae yn ansicr pa bryd y ffurfiwyd yma eglwys gyntaf, ond ni bu erioed yn lliosog. Ei rhif yn 1840 oedd 13, ac nid oedd ond saith o'r rhai hyny i ddibynu arnynt. Bu y Parch. Humphrey Evans, Maethlon, yn byw yn yr ardal hon pan yn ddyn ieuanc. Yr oedd yma yn y blynyddoedd 1837-8. Rhoddodd ef, ynghyd a'i fam. yn-nghyfraith, Anne Jones, yr hon a breswyliai yn nhŷ y capel, lawer o gynorthwy i'r achos yn yr adeg wanaf arno. Yma hefyd y dechreuodd y Parch. Robert Griffith, Bryncrug, bregethu (bu yn trigianu yn yr ardal am ychydig flynyddau); anfonwyd cenhadon i'r eglwys i'w holi o Gyfarfod Misol Awst, 1846. Dewiswyd brawd i flaenori yr eglwys yn Eden yn niwedd 1840. Owen Griffith, fel y tybir, oedd efe, brodor o Sir Gaernarfon, a brawd i R. Griffith, y pregethwr. Wedi gwasanaethu yr achos yn ffyddlon, ymfudodd i'r America. Hysbysir mai efe oedd blaenor cyntaf yr eglwys. Dafydd Pugh, Cefndeuddwr, a fu yn flaenor yma y tymor hwn. Yr oedd wedi bod yn flaenor yn Llanelltyd, a cheir crybwylliad am dano yno. Nid ymddengys y bu yma fawr neb wrth ei swydd yn blaenori hyd ar ol y diwygiad, 1859. Morris Llwyd, Cefngellgwm, fyddai yn dyfod yma trwy y blynyddoedd i wneuthur gwaith blaenor pan fyddai eisiau, sef adio y llyfrau ar ddiwedd blwyddyn, derbyn rhai yn gyflawn aelodau, disgyblu, gwastadhau anghydfod, derbyn arian y seti, ysgrifenu