Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DAVID JONES.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor, Medi 1854. Bu farw yn niwedd y flwyddyn 1882. Yr oedd ef yn fab i William Dafydd, Bodyfudda. Cafodd ddygiad i fyny crefyddol, ac yr oedd ôl hyny i'w weled arno bob amser. Crefyddwr da fel ei deulu oedd yntau, a thynodd ei gwys i'r pen mewn heddwch a thangnefedd. Bu Evan Roberts, o Maentwrog Uchaf, yn blaenori yn yr eglwys hon. Y blaenoriaid yma yn awr ydynt, William Jones, Glanllafar, a David Jones, Bryngafolau.

Nifer y gwrandawyr, 77; cymunwyr 36; Ysgol Sul, 64.

EDEN

Megis yr Eden gyntaf, felly y Mae yr Eden yma yn cario gyda'r enw y syniad o bellder, o ran lle ac amser. Er mwyn y rhai na wyddant, dywedwn yn gyntaf fod y capel hwn ar ochr y ffordd fawr sydd yn arwain o Drawsfynydd i Ddolgellau, oddeutu pedair milldir o'r lle cyntaf, a naw o'r olaf. Gelwir yr ardal yn y cylchoedd cyfagos Caeau Cochion. Ar lyfrau y Cyfarfod Misol, mae y capel fel taith Sabbath mewn cysylltiad â Thrawsfynydd, ac mae y tri lle, "Trawsfynydd, Cwmprysor, ac Eden," yn daith Sabbath er pan adeiladwyd y capel. Nid yw y tri yn annhebyg i dri throed trybedd, ond fod un troed yn fyrach na'r traed eraill. Y blynyddoedd diweddaf mae y brodyr yn Nhrawsfynydd yn rhoddi ceffyl a cherbyd i gludo y pregethwr yn ol a blaen i Eden.

Dechreuwyd yr achos yma trwy gychwyn Ysgol Sul, rywbryd o 1819 i 1823, mewn ffermdy o'r enw Graigddu Uchaf. Tebygol ydyw mai Richard Roberts, Hafod-fedw, wedi hyny y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, oedd sylfaenydd yr ysgol hon. Gan fod yr ardal yn hynod o wasgarog, cynhelid hi, am lawer o flynyddoedd ar ol. adeiladu y capel, ar hyd gwahanol dai y gymydogaeth. Credir iddi gael ei huno â'r dosbarth