Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Richard Davies, Mawrth, 1874,—symudodd i Harlech. Bu y tri yn weithgar yma yn ystod tymor eu harosiad. Y blaenoriaid yn awr ydynt, Mri. W. E. Jones, Evan Roberts, Edward Williams, Daniel Jones, John B. Williams, David Davies.

Yma y dechreuodd y Parch. David Williams, Coedybleiddiau, bregethu, yn fuan ar ol 1836. Ymfudodd i America, a diweddodd ei oes ychydig flynyddau yn ol yn Sir Drefaldwyn. Yma hefyd, yn niwedd y flwyddyn 1847, y dechreuodd Mr. David Davies, wedi hyny o'r Rhiw, a thrachefn o Gorris, bregethu.

Bu y Parch. Elias Jones yn weinidog rheolaidd yr eglwys, o 1869 i 1876. Y Parch. G. C. Roberts, o Mehefin, 1877, i Rhagfyr, 1889.

Nifer y gwrandawyr, 154; cymunwyr, 72; Ysgol Sul, 110.

LLENYRCH

Ardal wledig, deneu ei phoblogaeth, ydyw Llenyrch, yn sefyll megis rhwng Talysarnau a Maentwrog, i fyny ar ben y bryniau, ar y dde wrth fyned o'r blaenaf i'r olaf. Terfyna rhan uchaf y gymydogaeth ar Pandy-y-Ddwyryd, ac yr oedd rhai o grefyddwyr cyntaf y wlad yn byw yma. Yn yr hen amser, i eglwys Llandecwyn yr elai y trigolion i addoli. Gwneir crybwylliad i Ysgol Sabbothol gael ei chynal mewn amser boreuol yn Tŷ'nypant, yn yr ardal hon,—y tŷ y bu y gwragedd duwiol yn cyfranogi o Swper yr Arglwydd gyda bara a dwfr ynddo. Tua'r flwyddyn 1830, buwyd yn ei chynal, dros amser byr, mewn annedd dy o'r enw Breichiau, yn yr hwn le flynyddoedd cyn hyny y bu "Mari y Fantell Wen" yn pregethu ei hathrawiaethau cyfeiliornus. Oddeutu 1840— 1845, buwyd yn cynal ysgol mewn lle a elwir Beudy Bach. Anenwadol ydoedd yn y ddau le hyn. Bu y Wesleyaid yn cadw Ysgol Sul wedi hyny yn y Tŷ Newydd, lle rhwng y capel